Mae’r gyllideb hon yn ergyd drom i dreftadaeth annibynnol
Mae’r llywodraeth wedi dewis cyfresi dros ein cnydau. Mae gofyn i’r llywodraeth sylweddoli maint y niwed a achosir gan y cam gwag hwn, a gwrthdroi ei chynlluniau, medd ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, Ben Cowell.
Cawsom rybudd o hyn. Cyflwynwyd cyllideb yr Hydref wedi sawl mis o ddyfalu, ac ar ôl i’r syniad o gynyddu treth etifeddiant gael ei gynnig fel un o’r dewisiadau oedd gan lywodraeth a fu’n tanlinellu droeon y ‘twll du’ a adawyd iddi gan y llywodraeth flaenorol.
Er hynny, daeth cyhoeddiad y canghellor y byddai cap o £1 filiwn ar geisiadau am gymorth eiddo busnes a chymorth eiddo amaethyddol fel cryn ergyd i ni. Codir treth etifeddiant o 20% ar bopeth dros yr £1 filiwn hon, hanner y gyfradd arferol.
Mae diddymu 100% o’r cymorth, hyd yn oed ar gyfradd o 20% yn ergyd drom i unrhyw stad sydd wedi seilio eu cynlluniau treth ar y dybiaeth y byddai cymorth llawn ar gael iddynt. Bydd angen i stadau sydd wedi arallgyfeirio i fentrau busnes newydd, gan gymryd yn ganiataol y gellid trosglwyddo’r fenter yn rhwydd i’r genhedlaeth nesaf, ail ystyried eu sefyllfa.
Mae busnesau treftadaeth yn wahanol i fusnesau arferol eraill. Yn greiddiol iddynt mae set o asedau – y tŷ, ei gynnwys, a’r tiroedd o’i amgylch – yr oll yn gwbl unigryw i’r lleoliad hwnnw, ac sy’n anodd eu gwahanu oddi wrth ei gilydd a’u rhannu, heb leihau gwerth a phwysigrwydd yr asedau fyddai ar ôl. Yng nghyd-destun unrhyw fusnes arall, dibrisio mae asedau cyfalaf dros amser, ond mae’r gwrthwyneb yn wir i asedau o fewn y busnesau treftadaeth (maent hwy yn cynyddu yn eu gwerth wrth iddynt ddod yn brinnach).
Byddai gosod treth etifeddiant ar yr asedau hyn ag effaith hollol groes i egwyddorion busnes. Ymddengys mai bwriad y canghellor oedd sicrhau bod cyfoethogion y gymdeithas – yn enwedig y rhai sydd wedi buddsoddi mewn tiroedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i’w gochel rhag y dreth etifeddiant – yn talu eu cyfran deg o’r dreth. Gwir effaith y newid, fodd bynnag, fydd cosbi’r rhai sydd â’u hasedau wedi eu trosglwyddo iddynt gan eu cyndeidiau dros y canrifoedd. Mae cynifer o ffermwyr bychain bellach yn poeni’n arw am ddyfodol eu busnesau teuluol a’u bywoliaeth.
Mae agweddau eraill i dreth etifeddiant yn aros yr un peth wedi’r Gyllideb hon. Yn benodol y rheolau am drosglwyddiadau y gallent gael eu hesgusodi a’r system eithriadau treftadol. Yna, gall y Trysorlys ddadlau gan fod yr eithriadau hyn yn parhau mewn grym y bydd baich y newidiadau i’r cymorth i fusnesau ac eiddo amaethyddol fod rhyw gymaint yn llai. Mae addewid y bydd trafodaeth bellach ar sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eiddo sydd eisoes yn rhan o ymddiriedolaeth ac sydd felly yn rhwym wrth gost o 6% bob deng mlynedd.
Yn ddi-os, mae’r newidiadau hyn i gymorth ar eiddo busnes ac amaeth yn creu ansicrwydd i warchodwyr ein stadau hanesyddol. O ganlyniad, bydd disgwyl i nifer ohonynt ail ystyried eu penderfyniadau. Mae hi’n bosibl y bydd rhai yn gweld nad yw eu busnesau bellach yn rhai ymarferol, os bydd rhaid iddynt dalu treth etifeddiant o’r maint hwn.
Rydym eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer y stadau hanesyddol sydd ar y farchnad. Os bydd y duedd hon yn cynyddu, gall olygu y bydd stadau hanesyddol, a oedd ar agor i’r cyhoedd, yn cael eu prynu gan berchnogion newydd sydd â diddordeb yn yr adeiladau a’r gerddi er mwyn eu mwynhad personol eu hunain yn unig. O ganlyniad, collir y lles a’r mwyniant a gaiff y cyhoedd drwy ymweld â’r stadau hyn, a bydd lleihad hefyd yn nifer y swyddi sydd ar gael yn lleol.
Gwelir sectorau busnes eraill yn elwa o ragor o gymorth yn natganiad y canghellor. Enghraifft o hyn yw i’r canghellor sicrhau y bydd credydau treth i’r diwydiannau creadigol – ffilm a chynyrchiadau teledu, gemau fideo ac arddangosfeydd mewn amgueddfeydd – yn parhau mewn grym. Mae’r cymorth i’r diwydiannau creadigol yn fwy na £2 biliwn pob blwyddyn, sydd dros bedair gwaith yn fwy na’r £520 miliwn y disgwylir i’r cap ar gymorth i eiddo busnes ac amaeth ei godi yn flynyddol (erbyn 2027). Mae’r llywodraeth wedi dewis cyfresi dros ein cnydau.
Mae hi’n anodd dehongli cyllideb sy’n estyn cymorth mor rhwydd i’r diwydiannau creadigol ar y naill law, tra’n cynyddu’r dreth ar fusnesau gwledig ar y llall, fel dim ond anffafriaeth fwriadol. Mae ein heconomi gwledig eisoes yn dioddef o ddiffyg buddsoddiant a’r rhagolwg yw y bydd ein llywodraeth newydd yn dilyn yr un camrau. Ymddengys bod stadau gwledig yn darged i drethiant ychwanegol, tra bod gwneuthurwyr dramâu Netflix i’w gweld fel entrepreneuriaid sy’n haeddu cael help llaw. Mae hon yn sefyllfa sy’n anodd ei dirnad, gan fod cymaint o ffilmio yn digwydd yn Nhai Hanesyddol ein haelodau (mae’r ffilm Rivals, gan Disney+ yn enghraifft o hyn).
Mae’r llywodraeth wedi diystyru’r dystiolaeth bod aelodau Tai Hanesyddol yn cynnal swyddi sy’n gyfwerth â 32,000 o swyddi llawn amser, eu bod yn gymorth i greu dros £1 biliwn o wariant defnyddwyr, a’u bod yn gyfrifol am ryw draean o’n holl dwristiaeth treftadaeth.
Ar yr un pryd, mae’r gyllideb wedi creu rhagor o gostau i fusnesau drwy’r wlad i gyd. Codwyd yswiriant cenedlaethol cyflogwyr i 15%. Mae isafswm cyflog cenedlaethol i’r rhai sydd rhwng 18 ac 20 mlwydd oed wedi cynyddu dros 16% (at £10 yr awr). Bydd hyn yn cael effaith anghyfartal ar y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch. Gellir ond gweld hyn fel cyfres o fesurau gwrth-fusnesau-bychain gan lywodraeth sy’n honni ei bod yn hybu twf economaidd ac yn creu amodau ffafriol i fuddsoddiant.
Yr un golau egwan a welir yma yw y bydd y newid i’r cymorth a geir gan eiddo busnes ac amaethyddol yn dod i rym o fis Ebrill 2026. Felly, mae ychydig dros flwyddyn gan ein haelodau i ystyried eu cynlluniau newydd. Mae’n bosibl y bydd grym y gwrthwynebu a welir i’r cynlluniau newydd hyn yn gorfodi’r llywodraeth i ailfeddwl. Efallai y gellir ail osod y cap o £1 filiwn ar lefel uwch, wedi ystyried y niwed posibl a achosir i ffermydd teuluol cymharol fychan wrth ei gadw ar y swm a argymhellir ar hyn o bryd.
Rydym wedi datgan ein hanfodlonrwydd â’r gyllideb gan danlinellu’r peryglon a’r pryderon hyn wrth weinidogion a gweision sifil. Byddwn yn dal ati i leisio’n barn a chydweithio ag eraill sydd â’r un meddylfryd â ni yn y gobaith y bydd y llywodraeth yn sylweddoli cymaint o gam gwag fydd y cynlluniau newydd hyn.
GELLIR GWELD YR ERTHYGL HON DAN HERITAGE MATTERS YN EIN MAN ARFEROL YN RHIFYN Y GAEAF O’N CYLCHGRAWN HISTORIC HOUSE.