Dyfarnwyd Glyn Cywarch, Gwynedd yn enillydd Gwobr Adnewyddu Tai Hanesyddol 2024

GWOBRAU A CHYSTADLAETHAU

Noddir y wobr glodfawr hon a grëwyd ym 2008 gan dŷ ocsiwn Sotheby’s. Ei bwriad yw cydnabod enghreifftiau nodedig o’r gwaith a wneir gan berchnogion preifat yn gyson, ar hyd a lled y wlad, i warchod a diogelu yr adeiladau hanesyddol sydd dan eu gofal.

Mae Glyn Cywarch yn dŷ a adeiladwyd ym 1616 ac sydd bellach wedi’i restru â Gradd 11*. Fe’i lleolir ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Yn 2016 roedd yr adeilad wedi hen fynd â’i ben iddo, gyda thamprwydd difrifol drwyddo a’i nenfydau wedi cwympo. Roedd ar fin bod yn adfail oni bai iddo dderbyn sylw manwl a thrwyadl a hynny ar frys. Dechreuwyd ar raglen saith mlynedd i’w atgyweirio, gan ddefnyddio methodoleg gofalus o ddefnyddiau traddodiadol a meistri crefft i wneud y gwaith, oedd yn cynnwys technegau megis y defnydd o blastr calch. Adnewyddwyd to y porthdy yn llwyr gan ailosod llechi arno. Yn ogystal â defnyddio technegau a defnyddiau traddodiadol, talwyd sylw i ynysiad thermol y tŷ gan ei wella yn arw. Defnyddiwyd pwmp i gasglu gwres o ffynhonnell ddŵr sy’n ddull adnewyddadwy o wresogi’r tŷ.

Roedd gofyn i’r tîm fod yn hynod ofalus bob cam o’r ffordd i sicrhau bod yr adnewyddu yn cael ei wneud mewn dull ystyrlon a thrylwyr. Gan y bu i’r egwyddorion ecolegol yn ogystal â’r egwyddorion pensaernïol gael eu hystyried, crëwyd argraff arbennig ar y beirniaid. Gwnaethpwyd cymaint o’r gwaith yn ystod y pandemig, ac roedd pris y defnyddiau yn codi’n gyson a bu cyfyngu ar nifer y bobl a allai fod yn bresennol yno ar yr un pryd. Oherwydd bod golwg hir dymor wedi bod ar bron pob penderfyniad roedd hyn yn golygu bod haenau ychwanegol o gymhlethdodau a chostau i bob tasg. Mae’r canlyniad yn un hynod nodedig.

Dywed yr Arglwydd Harlech, perchennog Glyn Cywarch: “Rydym wrth ein bod o gael ennill y Wobr Adnewyddu Tai Hanesyddol 2024 a noddir gan Sotheby’s. Mae hyn yn brofiad gwylaidd tu hwnt i ni yn arbennig wrth gydnabod yr ymgeiswyr eraill ac enillwyr y gorffennol. Dyma dystiolaeth i’r gwaith caled ac ymroddiad pawb a fu’n ein cynghori ac yn gweithio ar y project hwn gyda ni. Hebddynt hwy ni fyddai hyn oll wedi bod yn bosibl. Ein gwir obaith yw ein bod wedi adnewyddu’r adeilad ar gyfer sawl cenhedlaeth i ddod.”

Dywed Ben Cowell, Prif Gyfarwyddwr Tai Hanesyddol: “Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno Gwobr Adnewyddu i dŷ yng Nghymru am y tro cyntaf erioed eleni. Mae Glyn Cywarch yn enghraifft odidog o sut y gellir dwyn bywyd newydd i dŷ hanesyddol a’i baratoi ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Llongyfarchiadau gwresog i’r tîm a’r teulu ar eu llwyddiant penigamp.”

Dywed yr Arglwydd Dalmeny, Cadeirydd Sotheby’s yn y DU: “Mae hi’n bleser o’r mwyaf gan Sotheby’s i allu dangos gwerthfawrogiad o’r project adnewyddu hwn yng Nglyn Cywarch. Mae’n enghraifft ardderchog o waith caled perchnogion stadau hanesyddol, ac mae’r plethiad o dechnegau pensaernïol traddodiadol a’r dulliau newydd arloesol yn arbennig o drawiadol.”