Ein gwaith

Ein cymdeithas ni, Tai Hanesyddol Cymru, yw llais annibynnol tai, cestyll a gerddi Cymru, sydd yn eu tro yn adrodd stori ein cenedl. Rydym yn cynrychioli, yn cynghori ac yn cefnogi perchnogion unigol er mwyn sicrhau bod y mannau arbennig hyn yn hyfyw ac yn hygyrch i genedlaethau’r dyfodol.

Rydym yn cynnal pob un o’n tai cofrestredig, p’un ai ydynt wedi’u perchnogi gan unigolion, elusennau, busnesau neu grwpiau cynnal eraill.

Eiriolaeth

Rydym yn eiriol dros fframwaith reoleiddio, deg, sy’n ymarferol o ran cyllid a chynllunio – un sy’n galluogi tai a gerddi hanesyddol i ffynnu er budd Cymru a hynny heb draul ar bwrs y wlad.  Rydym yn chwyrn wrth gynrychioli diddordebau ein tai cofrestredig mewn materion megis trethi, rheolaeth, cynllunio, cynaladwyedd, iechyd a thwristiaeth.  Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â gweinidogion, gweision sifil ac aelodau seneddau Cymru a San Steffan.  Trosglwyddir tystiolaeth ac astudiaethau achos wrth ymateb i ystod eang o drafodaethau ac adroddiadau sy’n sail greu polisïau.  Rydym yn cyd-drafod â’n cyfeillion yn yr adrannau etifeddiaeth a thwristiaeth.  Darllenwch am ein polisi dros Gymru yma.

Cyngor

Mae ein harbenigwyr a’n cefnogwyr gwasanaethau proffesiynol wrth law i gynnig cyngor technegol, masnachol, ariannol a chyfreithiol am ddim, yn ôl y gofyn a thrwy archif eang o adnoddau ar-lein.  Mae ein Pwyllgor Ymgynghorol ar Ddysgu sy’n bwyllgor arbenigol yn cynnig cyngor ar sut mae sicrhau mynediad, dehongliad ac addysg – drwy grantiau yn ymwneud â mynediad.  Rydym yn cynnal amrywiaeth o seminarau a gweithdai pob blwyddyn i berchnogion a’r rhai sy’n rheoli tai hanesyddol gan drefnu bod y sesiynau hyn ar gael i’w gwylio ar lein unrhyw bryd.

Partneriaeth

Mae Tai Hanesyddol wedi cydweithio â Cadw ers cryn amser ac mae sedd ganddi ar y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol.  Mae’r Grŵp hwn yn seiat genedlaethol a arweinir gan Cadw, sydd ag aelodau o blith cyrff y sector cyhoeddus, cynrychiolwyr o gymdeithasau’r sector gwirfoddol a pherchnogion safleoedd hanesyddol.

Rydym yn bartneriaid â Sefydliad Astudio Ystadau Cymru, canolfan ymchwil sydd yn bodoli i hyrwyddo dealltwriaeth o rôl stadau a phlastai gwledig yn hanes, diwylliant a thirwedd Cymru.  Yn ddiweddar, buom â chyfraniad i un o’r gweithdai ‘Tai Hanesyddol ar gyfer yr 21ain ganrif – Treftadaeth, Arloesedd, Cynaladwyedd’ a gynhaliwyd yng Ngregynog, un o’n tai cofrestredig yng Nghanolbarth Cymru.

Darllenwch ragor am ein partneriaid Cymreig yma.

Sefydliad Tai Hanesyddol

Ffurfiwyd Sefydliad Tai Hanesyddol yn 2019 pan unwyd Sefydliad Tai Gwledig â’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Treftadaeth. Heddiw mae’r Sefydliad yn darparu grantiau ar gyfer atgyweirio a chadwraeth i adeiladau hanesyddol gwledig yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys, lle bo’n briodol, ei gerddi, tiroedd ac adeiladau allanol..  Mae gan y Sefydliad hefyd ran hanfodol yn y gwaith o warchod a diogelu gweithiau celf mewn tai hanesyddol sydd ar agor i’r cyhoedd, gan estyn cymorth lle bo angen hynny.

Darllenwch ragor am y Sefydliad Tai Hanesyddol drwy ymweld â gwefan y DU yma.

Creu incwm

Rydym yn darparu platform i’n tai cofrestredig greu incwm drwy gynnal dyddiau agored, teithiau, cyfleusterau aros tros nos, priodasau, digwyddiadau a phrofiadau drwy ein cynllun aelodaeth i ymwelwyr sy’n weithredol dros y DU.  Mae blynyddoedd o brofiad yn sicrhau bod eu tai yn talu eu ffordd gan ein haelodau ac mae gwledd o arbenigedd a gwybodaeth ddefnyddiol ar gael ganddynt.

Rhwydweithio

Mae gennym ran bwysig mewn trefnu bod ein haelodau yng Nghymru yn gallu rhwydweithio â’i gilydd gan rannu a gwerthfawrogi profiadau aelodau eraill.  Gwneir hyn drwy drefnu digwyddiadau a chyfarfodydd achlysurol naill ai rhai cymdeithasol yn unig, neu rai sy’n benodol i rannu gwybodaeth neu gyfarfod â’n cyd-sefydliadau.  Mae gwahoddiad i holl Aelodau Tai sy’n byw yng Nghymru i ymuno â ni yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Mehefin yn ogystal ag i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y DU a gynhelir yn Llundain ym mis Tachwedd.

Darllenwch ragor y manteision sydd i aelodau tai