Ein partneriaid

Ein cyd-weithwyr yng Nghymru

Cadw

Gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Mae Cadw’n gweithio tuag at amgylchedd hanesyddol hygyrch a diogel yng Nghymru drwy’r gadw at y gwerthoedd canlynol:

  • Gofalu am ein hamgylchedd hanesyddol er budd pobl heddiw ac yfory
  • Hybu’r datblygiad o sgiliau sydd eu hangen i warchod ein hamgylchedd hanesyddol mewn modd priodol
  • Helpu pobl i drysori a mwynhau ein hamgylchedd hanesyddol
  • Gwneud i’n hamgylchedd hanesyddol weithio er ein lles economaidd
  • Cyflenwi drwy bartneriaeth.

Mae Cadw yn rhan o Adran Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru ac mae’n atebol i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden MS.

Mae Cadw yn arwain Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, cylch trafod sy’n cynnwys cyrff o’r sector gyhoeddus, cynrychiolwyr o gymeithasau gwirfoddol a pherchnogion mannau hanesyddol.  Mae Tai Hanesyddol yn rhan o’r grŵp hwn.

Cewch ragor o wybodaeth am Cadw ar eu gwefan yma.

Sefydliad Astudio Ystadau Cymru, Prifysgol Bangor

Mae Sefydliad Astudio Ystadau Cymru yn ganolfan ymchwil genedlaethol sy’n bodoli i wella dealltwriaeth o rôl ystadau a phlastai yn hanes diwylliannau a thirweddau Cymru.

Roedd effeithiau a dylanwadau stadau a phlastai gwledig Cymru yn aml yn ddwys: hyd eu chwalu a’u tranc ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, roedd stadau tir yn rhan annatod o fywyd Cymru.  Yma pwythwyd llawer o wead cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol, economaidd a diwydiannol Cymru ynghyd, gan roi dylanwadau ar draws meysydd lleol, cenedlaethol a byd-eang.

O’i gartref ym Mhrifysgol Bangor mae’r Sefydliad yn defnyddio’r archifau, y casgliadau treftadaeth ddiwylliannol a’r amgylcheddau adeiledig sy’n gysylltiedig â ‘r lleoedd hyn i hyrwyddo rhaglen ymchwil ryngddisgyblaethol, gan sicrhau bod y wybodaeth a gynhyrchir am orffennol Cymru yn hygyrch ac yn cael ei rannu i gyfrannu’n adeiladol at ei dyfodol.

Mae’r egwyddorion canlynol yn llywio gwaith y Sefydliad:

  • Rhagoriaeth ymchwil
  • Seiliedig ar gasgliadau
  • Partneriaeth a chydweithio
  • Rhyngddisgyblaeth
  • Ymgysylltu â’r cyhoedd a’r gymuned

Gan weithio â phartneriaid megis Tai Hanesyddol, amcan y Sefydliad yw gwneud cyfraniad hirdymor i fywyd deallusol a diwylliannol Cymru ac i raglen ymchwil fywiog sy’n ryngwladol ei chwmpas a’i harwyddocâd.

Cewch ragor o wybodaeth am waith y Sefydliad a manylion am ddigwyddiadau sydd i ddod, ar ei wefan yma.

Y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA) Cymru

Mae’r Gymdeithas hon yn hyrwyddo’r economi wledig, yr amgylchedd a’n ffordd o fyw yn ein cefn gwlad.

Gan gynrychioli tua 3,000 o aelodau mae CLA Cymru yn cynrychioli ei haelodau a chymunedau gwledig drwy gysylltu’n uniongyrchol â Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a llunwyr polisi eraill ar faterion llosg y dydd sy’n ag effaith ar gymunedau a busnesau gwledig.  Gall hyn gynnwys materion sy’n dylanwadu ar amaethyddiaeth, ar gadwyn cyflenwi bwyd, datblygiadau economaidd gwledig, isadeiledd gwledig, treth, y broses o gael caniatâd cynllunio, rheolaeth y Parciau Cenedlaethol a thir penodedig, a rheoli eiddo preswyl a masnachol.

Mae’r gymdeithas yn darparu ystod o wasanaethau i’w haelodau gan gynnwys cyngor uniongyrchol ar fusnesau unigol, ac mae hefyd yn hysbysu ei haelodau o unrhyw ddatblygiad a all eu heffeithio.  Mae’r gymdeithas yn cynrychioli nid tirfeddianwyr a rheolwyr tir yn unig, ond hefyd ystod amrywiol o fusnesau gwledig a darparwyr gwasanaeth.

Mae nifer o aelodau’r Gymdeithas yn berchnogion ar eiddo hanesyddol sydd ar restr Tai Hanesyddol.

Cewch ragor o wybodaeth am y Gymdeithas a’i gweithgareddau yma.

Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru

Elusen genedlaethol er hybu cadwraeth a gwarchod treftadaeth gan ofalu am y parciau a’r gerddi hanesyddol yng Nghymru yw Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymgyrchu i achub gerddi a pharciau hanesyddol rhag esgeulustod, difaterwch, cynllunio a phlannu ansensitif ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae nifer o barciau a gerddi nodedig yng Nghymru sy’n gymaint rhan o’n treftadaeth Gymreig ag yw’r adeiladau a’r trefi mae’r gerddi’n eu cyfannu.  Nod yr Ymddiriedolaeth yw hybu pwysigrwydd diwylliannol y mannau hyn.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn amcanu:

  • Codi proffil treftadaeth ein parciau a’n gerddi sydd â chymaint o gyfraniad cyfoethog ac amrywiol i’n tirlun ni yma yng Nghymru.
  • Hybu diddordeb a mwynhad yn harddwch ac amrywiaeth parciau a gerddi Cymru, y rhai enwog a’r rhai llai enwog, mawr a bach, ffurfiol ac anffurfiol, gan y cyhoedd yn gyffredinol er mwyn i’r gerddi a’r parciau allu goroesi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Hybu adnewyddu a chadw parciau a gerddi sydd dan fygythiad, a’r rhai sydd bron a bod yn erddi coll, ac sydd o bwys hanesyddol arbennig yng Nghymru.
  • Ymchwilio a chofnodi hanes gerddi yng Nghymru, elfen bwysig o hunaniaeth hanesyddol a diwylliannol ein cenedl.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn hybu mwynhad a dealltwriaeth o’n tirwedd drwy raglen eang o ymweliadau, darlithoedd ac ymchwil.

Mae nifer o aelodau Tai Hanesyddol hefyd yn aelodau o’r Ymddiriedolaeth hon.

Cewch ragor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth ar ei gwefan yma.