Dewch i ymuno â’n cymdeithas

Rydym yn deulu agos o dai hanesyddol annibynnol a gynhelir gan fusnesau ac aelodau’r cyhoedd. Mae sawl math o aelodaeth ar gael ac mae nifer o fanteision yn eich disgwyl wedi i chi ymuno â ni.

Mae ymuno â chymdeithas Tai Hanesyddol drwy unrhyw fath o aelodaeth yn cyfrannu at amddiffyn a gwarchod ein pensaernïaeth werthfawr ac etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru.

Wedi i chi ymaelodi, byddwn yn rhannu nifer o hanesion diddorol â chi am ein mannau arbennig yma yng Nghymru.  Cewch hefyd fynediad am ddim i gannoedd o dai a gerddi ledled y DU.

Mae Aelodaeth Gyffredinol yn 2024 yn dechrau ar £54 y person am flwyddyn (Yn seiliedig ar aelodaeth gyffredinol ar y cyd.)

Mae Aelodaeth Tŷ i dai gradd I neu II* yn 2024 yn dechrau ar £161.11 y flwyddyn i dŷ nad sydd ar agor i’r cyhoedd.  Mae tâl aelodaeth i dai sydd ar agor yn seiliedig ar nifer yr ymwelwyr a’r anghenion hysbysebu fydd ar gyfer llety a digwyddiadau.

Cewch ddysgu rhagor am y gwahanol fathau o aelodaeth a manteision gwahanol pob un wrth ddarllen y disgrifiadau isod a dod yn gefnogwr gwerthfawr o’n cenhadaeth i warchod a diogelu treftadaeth Cymru ar gyfer y cenedlaethau a ddêl.

ymunwch yn awr drwy wefan y du

Aelodaeth Gyffredinol

I bawb sy’n hoffi treftadaeth - ymchwilio, cefnogi ac ymweld

Dyma ein math mwyaf poblogaidd o aelodaeth ac mae ar agor i bawb.  Wrth ymuno â ni byddwch yn ein helpu cynnal, cynghori a chynrychioli treftadaeth annibynnol.  Yn gyfnewid, bydd cannoedd o’n tai a’n gerddi cofrestredig ar draws y DU yn cynnig mynediad am ddim i chi yn ystod yr oriau agor arferol.  Drwy hyn cewch brofi hyd yn oed rhagor o’r dreftadaeth hynny sy’n agos at eich calon.

manteision aelodaeth gyffredinol

Aelodaeth Tŷ

I berchnogion tai hanesyddol, cestyll a gerddi gradd I a II* - does dim rhaid i’ch eiddo fod ar agor i’r cyhoedd yn gyson i ymuno â ni

Mae ein cymdeithas ar agor i dai, cestyll a gerddi dan berchnogaeth breifat, corfforaethol, elusennol neu sefydliadol, ddod yn aelodau llawn neu’n aelodau tai.  Rydym yn bodoli i warchod diddordebau’r mannau hyn ac i sicrhau eu bod yn aros lle gallant gael y gofal gorau – mewn dwylo annibynnol.  Sylwch mai’r lleoliad hanesyddol yw’r aelod ac nid y perchennog na’r gofalwr; hwy yw’r cynrychiolwyr.

I fod yn gymwys i ymaelodi rhaid i’r eiddo fod â phwysigrwydd hanesyddol neu bensaernïol; bydd adeiladau fel arfer wedi’u rhestru yn Radd 1 neu 11*, neu fod â chysylltiad agos â pherson neu ddigwyddiad sydd ag arwyddocâd hanesyddol iddynt.  Mae gerddi tai coll a fyddent wedi’u rhestru pe byddai’r tai wedi goroesi, neu’r rhai hynny sydd ar gofrestr parciau a gerddi hanesyddol yn gymwys i ymuno â’r gymdeithas.  Ystyrir hefyd gasgliadau pwysig o waith celf mewn adeiladau sydd heb eu rhestru ar gyfer ymaelodi.

Nid oes gofyn i’ch eiddo fod ar agor i’r cyhoedd yn rheolaidd i gael ymuno â ni – mae mwyafrif y tai a gynrychiolir gennym yn gartrefi teuluol, sydd â mynediad iddynt yn amrywio o gynnal garddwest flynyddol yr eglwys leol yn eu gerddi hyd at rai sydd â theithiau tywys rheolaidd a mannau sy’n enwog am baned o de a chacen go dda.

manteision aelodaeth tŷ

Aelodaeth Gyswllt

I unigolion sydd â chyswllt agos â thŷ sydd wedi’i gofrestru, megis cyn-drigolion neu deulu agos sy’n byw ar y stad

Bwriad yr aelodaeth hon yw galluogi cyn-drigolion tŷ cofrestredig sydd wedi trosglwyddo’r cyfrifoldeb ymlaen i’r genhedlaeth nesaf i ymaelodi, a hefyd aelodau clos y teulu sy’n parhau i fyw yn y tŷ neu ar y stad.

I ymuno fel Aelod Cyswllt, mynnwch air â phrif gyswllt y tŷ lle mae gennych gwlwm teuluol, neu cysylltwch â ni ar info@historichouses.org

Aelodaeth y Genhedlaeth Nesaf

I’r rhai hynny sy’n ymbaratoi i warchod tŷ hanesyddol nad sydd eto wedi’i gofrestru

Bwriad Aelodaeth y Genhedlaeth Nesaf yw cynorthwyo’r rhai sy’n rhagweld y byddent ryw ddydd yn byw mewn tŷ hanesyddol neu’n gyfrifol am ei gynnal, i’w paratoi am eu rôl fel gofalwyr.

Mae gan y rhan fwyaf o’n haelodau ‘gen nes’ gysylltiadau â thai neu erddi sydd eisoes wedi’u cofrestru, ond rydym hefyd yn croesawu cynrychiolwyr eiddo nad sydd eto’n rhan o’n cymdeithas.

Yn ychwanegol at ein gwasanaethau cynghori a’r seminarau i aelodau cyffredinol a thŷ, gwahoddir aelodau ‘gen nes’ i ddigwyddiadau ac ymweliadau sy’n benodol ar eu cyfer hwy, gan geisio sicrhau eu bod yn gallu elwa hefyd ar seminarau a fwriedir yn unswydd ar eu cyfer hwy.

Y tâl aelodaeth yw £60 i un person neu £80 i deulu dau berson.

I ymuno fel aelod y Genhedlaeth Nesaf, cysylltwch â James Probert, ein Cyfarwyddwr Datblygu ar james.probert@historichouses.org

 

Aelodaeth Gorfforaethol

Ar gyfer cwmnïau, elusennau a grwpiau sydd am gefnogi ein hymdrechion, tra’n elwa ar fanteision aelodaeth gyffredinol a derbyn ein cyhoeddusrwydd yn rhad ac am ddim

Drwy Aelodaeth Gorfforaethol gall cwmnïau sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau i’n tai cofrestredig, sefydliadau treftadaeth ac elusennau cysylltiedig, grwpiau cymdeithasol a gweithwyr perthnasol fod o gymorth i gynnal ein gwaith, tra’n elwa ar ystod o fanteision, megis cyhoeddusrwydd am eu cynnyrch a mynediad i gannoedd o’n hatyniadau.

Mae Aelodaeth Gorfforaethol ar agor i fusnesau ac unigolion sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau i berchnogion a rheolwyr mannau hanesyddol; elusennau treftadaeth a sefydliadau treftadaeth eraill sy’n rhannu ein hamcanion a’n gwerthoedd; a grwpiau cymdeithasol a gweithwyr perthnasol sydd am rannu’r cardiau hynny sy’n eu galluogi i ymweld â channoedd o’n hatyniadau cofrestredig am ddim, i ddarllen ein gwybodaeth ar-lein a bod yn rhan o’n cynigion arbennig a’n cystadlaethau.

Mae tâl aelodaeth safonol (i gyflenwyr a grwpiau cymdeithasol/gweithwyr) yn dechrau ar £294 gan gynnwys TAW.  Mae tâl gostyngol o £149.35 ar gael drwy gais i elusennau treftadaeth a rhai sefydliadau treftadaeth dethol.

darllenwch ragor am aelodaeth gorfforaethol ar wefan y du

 

gwelwch holl gyflenwyr y du sy’n aelodau

Ymunwch â Thai Hanesyddol

Dewch i ddysgu am ein treftadaeth am ond £68 y flwyddyn.

Mae cannoedd o dai, cestyll a gerddi gogoneddus dros Gymru gyfan a gweddill y DU yn cynnig mynediad am ddim i’n haelodau.

Hefyd: cewch derbyn ein cylchgrawn chwarterol, mwynhau ein darlithoedd misol ar lein, cael gwahoddiad cyfyngedig i brynu tocynnau am deithiau tu-hwnt-i’r-llen a manteisio ar ddewis eang o gynigion arbennig am wyliau, llyfrau a nwyddau eraill fydd at eich dant.