Gwefan newydd sbon Tai Hanesyddol Cymru

Ein Cymdeithas

Mae Tai Hanesyddol Cymru newydd greu safle ar-lein, un sy’n clodfori treftadaeth annibynnol ein cenedl.

Mae’n bleser digymysg gan Dai Hanesyddol Cymru gyflwyno ei gwefan ddwyieithog gyntaf ar gyfer Cymru.  Fe’i datblygwyd gyda chymorth Cymdeithas y DU er hwyluso ein cyfathrebu ni â’n cynulleidfa yma yng Nghymru, yn benodol felly ein haelodau tai newydd arfaethedig, y cyhoedd sy’n ymweld â’n lleoliadau a’r gwleidyddion hynny sydd gennym yma yng Nghymru.  Caiff y wefan ei lansio yng nghyfarfod blynyddol y gymdeithas ym mis Mehefin 2024.

Gwyddom cymaint sydd gan dai hanesyddol Cymru i’w cynnig yn nhermau treftadaeth a diwylliant a sut maent yn ceisio ymdopi mewn oes sydd mor wahanol i’r cyfnod y cawsant eu hadeiladu ynddo.  Bellach mae sawl tŷ hanesyddol yn greiddiol i’r economi leol gan iddynt greu cyfleoedd mewn cyflogaeth a thwristiaeth yn benodol.  Mae eu hanesion anhygoel o ddiddorol yn denu llu o ymwelwyr atynt.  Drwy hyn cedwir ein hanes yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac mae’n fodd i gryfhau ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.  Mae’r lleoliadau yn fannau sy’n hybu iechyd corfforol ein cenedl ac yn ganolfannau i unigolion a chymunedau cyd-gyfarfod ac ymfalchïo ynddynt.

Mae sawl enghraifft gennym o sut mae perchnogion creadigol ein Tai Hanesyddol yng Nghymru yn addasu eu cynlluniau ac yn arloesi i gwrdd â’r heriau sydd o’u blaenau yn yr unfed ganrif ar hugain.  Ar ein gwefan newydd rydym yn rhannu hanesion y rhai hynny sy’n gwarchod y mannau arbennig ac unigryw hyn.  Cewch ddarllen sut y bu i’r lleoliadau gael eu hachub a’u hatgyweirio mewn ffyrdd mor ofalus a thringar fel y bônt bellach yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.