Polisi Cymru

Mae cynifer o’n tai yn atyniadau twristaidd pwysig, yn fusnesau bychain ac yn gyflogwyr hanfodol bwysig i economi cefn gwlad Cymru sy’n aml yn fregus tu hwnt

Daw treftadaeth â ffyniant

Mae Tai Hanesyddol Cymru yn cynrychioli dros 100 o dai a gerddi hanesyddol sydd mewn perchnogaeth annibynnol. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o’n mannau mwyaf arwyddocaol a hanesyddol. Yn 2023 cafwyd bron i 200,000 o ymweliadau a chasglwyd £861,000 gan ymwelwyr ar gyfer economi Cymru. (Ffynhonnell: Manteision Economaidd, Cymdeithasol ac Amgylcheddol Tai a Gerddi mewn Perchnogaeth Annibynnol, Adroddiad Cymdeithas Tai Hanesyddol Cymru, Gorffennaf 2023 gan Saffery Champness, Cyfrifyddion Breiniol).

Mae busnesau tai hanesyddol Cymru wedi wynebu heriau sylweddol yn sgil y pandemig, ac yn fwy diweddar, yr argyfwng costau byw, yn ogystal â’r cynnydd parhaol yn y gost o adnewyddu a chynnal a chadw. Mae’r heriau hyn yn parhau i frathu. Mae cyflwyno deddfwriaeth newydd yn awr yn ychwanegu at y pwysau sydd ar y tai hanesyddol hynny sy’n dibynnu’n llwyr ar dwristiaeth am eu hincwm.  Heb reoliad addas a deddfwriaeth gefnogol, bydd gofalwyr ein treftadaeth yn wynebu dyfodol hynod o anodd.

Rydym yn awyddus i weld polisïau sy’n targedu nid yn unig hwb tymor byr, sydd ei wir angen ar ein hatyniadau treftadaeth a’r economïau lleol er mwyn eu gosod ar seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol, ond a fydd hefyd yn hybu twristiaid i deithio drwy Gymru ben baladr. Yn y mannau hynny lle mae ein treftadaeth yn hygyrch i bawb, mae’n amlwg ei fod yn cefnogi iechyd a ffitrwydd a’i fod yn allweddol i achosi twf yn yr economi leol. Mae’n holl bwysig bod Llywodraethau Cymru a San Steffan yn cydnabod gwerth ein tai a’n gerddi unigryw a hanesyddol a’u bod yn rhoi polisïau ar waith fydd yn gwarantu eu bod ar gael i genedlaethau’r dyfodol allu eu gwerthfawrogi a’u mwynhau.

I’r perwyl hwn, mae gennym 5 argymhelliad i’n gwleidyddion:

1. Diogelu ein treftadaeth rhag canlyniadau anfwriadol

Mae goroesiad ein treftadaeth unigryw, fyd-enwog, yn dibynnu ar greu fframwaith o gefnogaeth ariannol a rheoleiddiol.

Gall newidiadau i reoliadau ar agweddau megis effeithlonrwydd ynni a lletya byr dymor gael effaith andwyol ar fusnesau tai hanesyddol a gwneud y gwahaniaeth rhwng atyniad llewyrchus a busnes sy’n mynd â’i ben iddo.

Rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo o ddifrif i ystyried effaith economaidd posibl y newidiadau sydd i’w fframwaith reoli ar ein treftadaeth fregus.

Mae angen deddfwriaeth gynllunio sy’n hawdd i’w dehongli ar y sector dreftadaeth breifat.  Croesawyd Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 gan Dai Hanesyddol Cymru gan iddynt gredu y bydd yn darparu dehongliad cliriach o’r sefyllfa ac yn yr hir dymor yn peri bod y gyfraith ei hun yn fwy hygyrch.  O’r herwydd, bydd hyn yn fawr hwyluso rheolaeth effeithiol o’n Tai Hanesyddol ni yma yng Nghymru.

2. Datgloi golud cudd yr economi wledig

Mae cymaint rhagor gan yr economi gwledig i’w gynnig, ond fel y mae pethau ar hyn o bryd, fe’i gadewir yn aml ar y cyrion, ac yn ddiweddar mae wedi dioddef yn enbyd o ddiffyg buddsoddiad.

Gall busnesau tai hanesyddol ddwyn buddiannau sylweddol i economiau gwledig lleol, felly disgwylir rhagor o ymrwymiad gan weinidogion Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth San Steffan er mwyn dod i’r afael â heriau isadeiledd gwledig.

Rhaid i ni sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lle atyniadol i fyw a gweithio ynddo fel y gall gyrraedd ei lawn botensial fel pwerdy economaidd yn y byd modern.

3. Cefnogi’r defnydd o ynni adnewyddadwy a chynaliadwy

Bydd angen mwy na chyngor arbenigol ar y sector treftadaeth er mwyn gallu ymateb yn llawn i’r argyfwng hinsawdd.

Bydd angen cymorth ariannol, rheoleiddiol ac ymarferol i gynorthwyo perchnogion i osod ynni effeithiol ar waith mewn dull gofalus sy’n gwarchod adeiladau hanesyddol unigryw a gwerthfawr Cymru. Fel y cydnabyddir yn y Strategaeth Wres i Gymru, mae angen system o gynllunio sy’n addas i’w bwrpas wrth i ni anelu at gyrraedd sero net.

Bydd angen rhagor o fuddsoddiad mewn ffynonellau egni adnewyddadwy i gymunedau gwledig, i leihau’r ôl troed carbon a gostwng costau tanwydd adnewyddadwy, i gynyddu hunanddigonedd ac integreiddio’r sector treftadaeth â phrojectau ynni gwyrdd yn eu cymunedau. Yna byddai dyfodol llewyrchus a chynaliadwy gan ein hadeiladau hanesyddol a thraddodiadol.

4. Cymru sy’n gystadleuol ac yn gyrchfan gynaliadwy i dwristiaid

Mae creu marchnad gynaliadwy a bywiog yn hanfodol i’n tai cofrestredig a’n cymunedau gwledig.

Rydym yn llwyr gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddo roi blaenoriaeth i dwristiaeth treftadaeth. Er hynny, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod isadeiledd addas i dwristiaeth ar draws Cymru gyfan – nid yn unig yn y mannau poblogaidd – gan annog lletya byr dymor, lle nad yw hynny’n amharu ar anghenion tai lleol, fel y gall cymunedau gwledig ac economïau lleol fanteisio ar dwristiaeth a hybu rhagor o dwristiaeth lle bo angen hynny.

5. Ysgogi buddsoddiad mewn projectau atgyweirio

Rhaid i Lywodraeth Cymru ddeisyfu ar y Llywodraeth nesaf yn San Steffan i gyflwyno mesur bydd yn dileu’r Dreth ar Werth ar atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau rhestredig sydd ar agor i’r cyhoedd.

Byddai hyn yn galluogi atyniadau treftadaeth i fynd i’r afael â’r atgyweirio sydd wedi cronni ers amser, buddsoddi yn eu busnesau, creu swyddi lleol a bywiogi bywyd economaidd cymunedau gwledig Cymru. Drwy hyn fe gedwir ein treftadaeth yn fyw i’r canrifoedd a ddêl.

Byddai hyn yn ysgafnhau’r effaith ddofn sydd gan y £1.38 biliwn o waith adnewyddu, chynnal a chadw sydd, yn ôl aelodau Tai Hanesyddol, wedi cronni ers cyn y pandemig.  Yr adeiladau gwyrddaf yw’r rhai diweddar, ac nid yw gosod graddfa sero ar y dreth hon ar adeiladau newydd ac ar ddymchwel adeiladau presennol yn gwneud dim i hybu ail ddefnyddio ac addasu tai sydd eisoes yn bodoli.

Galwn ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ein hymgyrch dros y DU i leihau’r dreth incwm a godir ar Gronfeydd Cynnal a Chadw Treftadaeth o 45% i 20%.  Byddai hyn yn ysgogi buddsoddiad gan y sector breifat mewn projectau adnewyddu mewn lleoliadau twristiaeth ein treftadaeth.  Byddai’r newid hwn, o’i dargedu’n gywir, yn darparu elw net o £85.5 miliwn o fewn 5 mlynedd i’n heconomïau gwledig, yn galluogi rhagor o’n mannau treftadaeth i fod ar agor i’r cyhoedd ac felly’n sicrhau bod ein tai hanesyddol yn dod yn fwy cynaliadwy.

Ymunwch â Thai Hanesyddol

Dewch i ddysgu am ein treftadaeth am ond £68 y flwyddyn.

Mae cannoedd o dai, cestyll a gerddi gogoneddus dros Gymru gyfan a gweddill y DU yn cynnig mynediad am ddim i’n haelodau.

Hefyd: cewch derbyn ein cylchgrawn chwarterol, mwynhau ein darlithoedd misol ar lein, cael gwahoddiad cyfyngedig i brynu tocynnau am deithiau tu-hwnt-i’r-llen a manteisio ar ddewis eang o gynigion arbennig am wyliau, llyfrau a nwyddau eraill fydd at eich dant.