Manteision aelodaeth tŷ

Gall perchnogion a gofalwyr tai a gerddi gradd I a II* wneud cais am i’w heiddo hanesyddol ddod yn aelod tŷ a thrwy hynny dderbyn manteision ychwanegol

Yn ogystal â derbyn manteision aelodaeth gyffredinol, mae aelodau tŷ yn derbyn y cymhorthion canlynol gan y gymdeithas i sicrhau eu bod yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol:

Polisïau a materion cyhoeddus

Rydym yn eiriol dros fframwaith ariannol a rheoleiddiol fydd yn galluogi ein haelodau i ffynnu oddi mewn iddo.  Mae ein tîm polisi arbenigol yn gweithio’n agos â Llywodraethau Cymru a San Steffan ynghyd â rhai sydd â diddordeb yn ein gwaith, gwleidyddion a rheoleiddion, i greu polisi fydd er budd treftadaeth a berchnogir yn annibynnol.  Rydym yn bendant sicr wrth gynrychioli diddordebau ein haelodau mewn materion polisi megis trethiant, dadreoleiddio, cynllunio a thwristiaeth drwy bob modd posibl.

  • Trafod yn uniongyrchol â gweinidogion a gweision sifil.
  • Cyfarfod ag aelodau pob plaid yn seneddau Cymru a San Steffan.
  • Paratoi tystiolaeth gadarn ac astudiaethau achos sy’n sail i greu polisïau.
  • Adweithio i drafodaethau a cheisiadau am dystiolaeth gan y llywodraeth.
  • Creu a chynnal partneriaethau ymchwil.
  • Cynrychioli ein haelodau mewn cynadleddau polisi a chynadleddau gwaith.
  • Cydweithio â phartneriaid dros y sectorau treftadaeth a thwristiaeth a chyfrannu i brojectau ar y cyd.

Darllenwch ein Polisi Cymru.

Cyngor technegol a gwybodaeth arbenigol
  • Rydym yn darparu gwybodaeth dechnegol ar bob agwedd a all fod yn ddefnyddiol i berchennog tŷ hanesyddol, o faterion o olyniaeth hyd at weithgareddau masnachol, atgyweirio cynnal a chadw a cheisiadau am gymorthdaliadau.
  • Mae gennym dîm o gynghorwyr arbenigol sydd â phrofiad mewn diogelwch, mynediad, iechyd a diogelwch ac addysg (gan gynnwys ceisiadau am gymorthdaliadau). Mae unrhyw gyngor a roddir yn gyntaf ar gael am ddim gan ein noddwyr gwasanaeth proffesiynol.  Mae ganddynt wybodaeth eang mewn rheoli stadau, trethi, cyfrifyddiaeth, buddsoddi, yswiriant a’r gyfraith.
  • Ar dudalen aelodau gwefan y DU mae llyfrgell o gannoedd o bapurau arweiniol ar bynciau megis rheoliadau tân, cyfraddau busnes, eiddo deallusol, rheolau cynllunio, ffilmio hyn oll hyd at ddifrod gan wyfynod.
Seminarau a chymorth i’n gilydd
  • Rydym yn cynnal amrywiaeth o seminarau, gweithdai a digwyddiadau addysgol sydd ar gael i berchnogion, staff a gwirfoddolwyr. Mae’r rhain yn ymdrin â phynciau megis cadw tŷ, marchnata a chadwraeth hyd at briodasau.
  • Mae ein rhwydwaith o grwpiau lleol sydd ar gael i’n haelodau ar draws y DU yn galluogi perchnogion i ddysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu’u profiadau o gynnal tŷ hanesyddol.
  • Mae ein haelodau yn cyfarfod yn aml yng Nghymru, mewn Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol ac mewn cyfleoedd rhwydweithio eraill.
  • Mae bwrdd cyfleoedd ar-lein ar safle’r DU yn dod â chyfleoedd gwerthfawr i sylw’r rhai sydd â’u hamser yn brin, ar bynciau eto sy’n ymestyn o leoliadau ffilmio i ffynonellau grantiau, gostyngiadau mewn prisiau a chynigion i gystadlaethau a gwobrau.
Cymorth i weithgareddau masnachol
  • Gall ein cynllun mynediad-i-aelodau fod o gymorth i gynyddu nifer ymwelwyr ac incwm tai sydd ar agor fel atyniadau twristaidd.
  • Mae ein llwyfan ‘Gwahoddiad i Ymweld’ yn caniatáu i dai nad sydd ar agor fel arfer werthu tocynnau ar gyfer teithiau a arweinir gan y perchnogion ar adegau sy’n gyfleus iddynt hwy.
  • Rydym yn paratoi rhestr benodol, mewn print ac ar-lein o dai sy’n cynnig llety mewn lleoliadau hanesyddol, o westai i fannau gwely a brecwast neu lety fesul noson.
  • Caiff mannau ein haelodau eu hysbysebu ar ein gwefan Cymru a gwefan y DU, yn ein cylchgrawn chwarterol, ac ar sianeli ein cyfryngau cyhoeddus. Bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o fusnesau cynnal priodasau a digwyddiadau busnes, llogi ein mannau gan gorfforaethau, cyfleoedd i ffilmio a sioeau a gwyliau.
  • Cewch gyngor gennym ar sut mae trin â chwestiynau gan y wasg, radio, ffilm a theledu.

Os ydych chi’n ofalwr ar eiddo hanesyddol sydd â gwerth arbennig o ran hanes neu bensaernïaeth, gwnewch gais ar unwaith i’ch tŷ gael bod yn Aelod a dechrau derbyn cyngor ymarferol ar bob agwedd o ofal a chynhaliaeth i’ch tŷ hanesyddol a hefyd bod o gymorth yn ein hymgyrchoedd ar ran ein treftadaeth yn y dyfodol.

Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â

info@historichouses.org neu ffoniwch 020 7259 5688