Manteision aelodaeth

Mae manteision pob math o aelodaeth yn cynnwys mynediad rhad ac am ddim i gannoedd o dai dros y DU

Cerdyn Mynediad Rhad ac am Ddim

Mae cannoedd o’r tai, cestyll a gerddi hanesyddol sydd ar agor yn gyson i’r cyhoedd yn croesawu aelodau Tai Hanesyddol am ddim, ond i chi ddangos cerdyn aelodaeth dilys.

Cylchgrawn Tai Hanesyddol

Mae’r gymdeithas yn cyhoeddi cylchgrawn bedair gwaith y flwyddyn sy’n llawn o erthyglau a lluniau o’n tai a’n gerddi ar draws y DU.  Yn y cylchgrawn mae erthyglau cyson ar astudiaethau lled ddwfn o hanes, celfyddyd a phensaernïaeth ein hadeiladau mawreddog; yn ogystal â syniadau a chynigion ar sut i wella eich gardd.

Llawlyfr Blynyddol

Mae ein Llawlyfr Blynyddol yn rhestru’r holl fannau sy’n cynnig mynediad am ddim i’n haelodau, ynghyd â manylion am y mannau hynny sydd â theithiau tywys am dâl, ond i chi archebu lle ymlaen llaw, a’r rhai sydd hefyd yn cynnig llety.

Archebu ffafriol

Cewch docynnau cynnar i deithiau Gwahoddiad i Ymweld i fannau dros y DU.

Cynnwys arbennig

Mae gwefan y DU yn gyforiog o wybodaeth ychwanegol ar hanes a chynnwys ein tai a’n gerddi, yn ogystal â theithiau fideo, darlithoedd byw a rhai ar fideo y gallwch eu gwylio dro ar ôl tro a sgyrsiau gan berchnogion, haneswyr ac arbenigwyr.  Ar y wefan hefyd mae copïau o’n cylchgrawn wedi’u harchifo.  Cewch ymuno yn ein cystadlaethau rheolaidd sydd yno i aelodau yn unig ac a fydd yn herio eich creadigrwydd a’ch gwybodaeth gyffredinol.

Dewch yn gefnogwr gwerthfawr o’n cenhadaeth i warchod a diogelu treftadaeth Cymru i genedlaethau’r dyfodol drwy ymuno yn awr ar brif wefan y DU.

ymunwch yn awr drwy wefan y du