Hanes Parc Iscoed 2

Mae’r tŷ presennol yn dyddio’n ôl gan fwyaf at 1738, er bod rhannau ohono yn dyddio’n ôl at ganol yr ail ganrif ar bymtheg. Roedd hwn yn disodli tŷ a adeiladwyd yno’n llawer cynt, ond gafodd olion y tŷ cyntaf eu dymchwel yn llwyr ym 1780.

Y perchnogion cynnar

Yng nghanol yr 17eg ganrif perchnogwyd Iscoed gan y teulu Adams, a sefydlodd yr ysgol Adams’ Haberdashers yn Newport, Swydd Amwythig.  Wedi hyn cafodd y tŷ ei etifeddu gan y teulu Deaves drwy nith a briododd Thomas Deaves, marsiandwr mewn tecstilau yn Whitchurch, Swydd Amwythig.

Prynwyd Iscoed gan William Hanmer ym 1738 wedi iddo dalu £1,500 i’r teulu Deaves amdano.  Bryd hynny, tŷ bric coch deulawr, cymharol gyffredin â dau dalcen oedd yn cyfeirio o’r Dwyrain i’r Gorllewin oedd Iscoed.  Adeiladodd Hanmer flaen newydd i’r tŷ oedd yn wynebu’r De, asgell y llyfrgell ar y rhan Ogleddol a thrydydd llawr i’r adeilad.

Ym 1780 prynodd y Parchedig Richard Congreve y tŷ gan Assheton Curzon, mab-yng-nghyfraith William Hanmer (a ddaeth yn ddiweddarach yn Is-iarll cyntaf Curzon) am £8,400.

Bu Iscoed ym meddiant y teulu Congreave tan 1843 pan brynwyd y tŷ a 202 erw am £12,500 gan Philip Lake Godsal, (1784-1858).  Bu ei dad Philip Godsal (1747-1826) yn saer cerbydau o fri ac yn ei dro, priododd yr Anrhydeddus Grace Ann Best merch Arglwydd cyntaf Wynford.

Tad Philip Lake Godsal, y saer cerbydau, oedd yn gyfrifol am gasglu at ei gilydd prif greiriau gwerthfawr casgliad Iscoed, y paentiadau, y llestri arfbeisiol, y dodrefn a llyfrau’r llyfrgell.  Ef gomisiynodd llawer o’r paentiadau, gan gynnwys Y Plant Godsal gan John Hoppner a werthwyd ym 1900 ac sydd bellach yn yr Oriel Huntington, Passadena, California, er bod copi da o’r paentiad i’w weld yn Iscoed.  Ef hefyd brynodd y Cloc Cas Hir Tompion Iscoed sydd bellach yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Philip Lake Godsal 1784-1858

Y Plant Godsal gan John Hoppner, a werthwyd ym 1900 ac sydd bellach yn Oriel Huntington, Passadena, California, er bod copi da i’w weld yn Iscoed.

Ehangu Parc Iscoed

Ychwanegodd Philip Lake Godsal y portico a’r ystafell fwyta ac yna ei fab Philip William Godsal (1820-1896) oedd yn gyfrifol am ychwanegu’r bwa i’r parlwr ac am y tŵr dŵr hynod ei olwg a adeiladodd ym mlwyddyn olaf ei oes.

Amaethwr a dyngarwr gwledig a gredai y dylai ei denantiaid fod â’r hawl i ffermio’u tyddyn eu hunain oedd Philip William Godsal.  Ef oedd yn bennaf gyfrifol am ychwanegu at ei stad drwy brynu tiriodd gan y teuluoedd lleol Hanmer a Kenyon ac yna sefydlu ffermydd ac adeiladu ffermdai a bythynnod, gwaith a wnaethpwyd hefyd gan ei fab yn ddiweddarach.

Philip Thomas Godsal a anwyd ym 1850 oedd y nesaf i etifeddu Iscoed.  Roedd yn un o sefydlwyr yr English Eight Club ym 1878.  Ym mysg ei ddyfeisiadau oedd y Reiffl Godsal.  Bu bron i’r Fyddin Brydeinig fabwysiadu hwn yn hytrach na’r Lee-Enfield.  Pan fu farw Philip Thomas Godsal yn 1925 ei fab hynaf Philip Godsal (1880-1863) oedd yr etifedd.  Ar y pryd, roedd yn Asiant i Stad Hotham yn Swydd Efrog, ac ni symudodd draw i Iscoed.  Ceisiodd osod y tŷ, ond bu’n wag tan 1936 pan gafodd Syr John Reynolds y brydles.

Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd ym 1939, gadawodd Syr John Reynolds a’i deulu y tŷ ac aeth ar osod i Goleg Ysgrifenyddol St Godric oedd wedi ei symud o Lundain i osgoi’r cyrch awyr.  Arhosodd y coleg yno tan ddiwedd y rhyfel.

Hugh Montgomery-Massingberd wrote:

Difodwyd y parcdir hyfryd gan hunllef o gytiau Nissen,weiren bigog a thyrau rheoli.

Blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd

Tra roedd y tŷ ar osod i Goleg St Godric, penderfynwyd defnyddio parcdir Iscoed yn ysbyty 1,500 gwely i Luoedd yr Unol Daleithiau gyda chlos bychan yno i garcharorion rhyfel.  Yn union wedi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop ym 1945 daeth y parcdir yn rhan o Raglen Ailsefydlu Pwyliaid.  Roedd yn wersyll ac yn ysbyty i ffoaduriaid o wlad Pwyl tan 1957.

Yn ôl yn gartref i’r teulu

Dychwelodd y Lefftenant-Cyrnol Philip Godsal (mab Philip Thomas) yn ôl i’r tŷ ym 1946 ond oherwydd presenoldeb parhaus y gwersyll bu’n byw yno mewn fflat cymharol fechan ar lawr cyntaf asgell y llyfrgell.  Erbyn hyn roedd yn Ynad Heddwch ac wedi derbyn Croes Filwrol gan iddo lwyddo i ddianc o Wersyll Carcharorion Rhyfel yr Almaenwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.  Roedd rhaid disgwyl tan 1957 cyn i’r teulu dderbyn meddiant llawn o’r parc ac y gellid dechrau o ddifrif ar y gwaith o’i adnewyddu.

Ym 1964 symudodd mab y Cyrnol, yr Uwchgapten Philip Hugh Godsal (1920-1982) i Iscoed a dechreuwyd defnyddio blaen y tŷ unwaith eto.  Ar ei farwolaeth ym 1982, etifeddwyd Iscoed gan ei fab hynaf, Philip Caulfeild Godsal (ganed 1945) a daeth yntau i fyw yno ym 1984.  Asiant tir oedd Philip Caulfeild, fel ei dad a’i daid o’i flaen, a dechreuodd atgyweirio rhai o’r adeiladau, gosod to newydd ar brif ran y tŷ a chael gwared â’r chwilod gwyliadwriaeth angau.

Ym mis Medi 2009 symudodd Philip Langley (ganed 1971), ei wraig Susie a’u dau blentyn i Iscoed gan ddechrau ar y project enfawr o adnewyddu’r tŷ er mwyn creu lleoliad addas ar gyfer priodasau a digwyddiadau eraill.  Byddai hyn yn sicrhau dyfodol llewyrchus i Iscoed.

DARLLENWCH AM ADNEWYDDU ISCOED

Mae Parc Isgoed ar agor i deithiau Gwahoddiad i Ymweld, priodasau a digwyddiadau eraill ac mae prisiau gostyngol i aelodau Tai Hanesyddol.

Gwelwch Barc Iscoed ar wefan y DU