Pwy ydym ni
Ni yw cangen Cymru o’r gymdeithas Tai Hanesyddol, cymdeithas gydweithredol a chwmni cyfyngedig nid-er-elw o dros fil o gestyll, tai a gerddi hanesyddol gradd I a II* dros bedair cenedl y DU
Mae’r rhan fwyaf o’n haelodau yn gartrefi a gerddi sydd dan berchnogaeth breifat. Mae eraill yn elusennau, amgueddfeydd, busnesau neu’n sefydliadau.
Sefydlwyd Tai Hanesyddol yn rhannol i osod ymdrechion unigol perchnogion a gofalwyr annibynnol yn gyfwerth â gwaith ein hoff sefydliadau cenedlaethol, megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan sicrhau cynrychiolaeth gyfartal o’u hanghenion a’u llwyddiannau.
Yn aml, cysylltir Tai Hanesyddol â thai mawreddog yn Lloegr – atyniadau mawrion sy’n denu sawl mil o ymwelwyr yn flynyddol ac sy’n codi arian am gael mynediad iddynt. Ar y llaw arall, mae’r rhan fwyaf o dai’r gymdeithas yng Nghymru yn adeiladau hanesyddol sy’n gartrefi teuluol, sydd ar adegau yn cynnig lleoliad i briodasau, llety dros nos, neu ambell i daith breifat. Maent, er hynny, yn ysgwyddo’r baich a’r costau cyffredin o gynnal a chadw’r adeiladau hanesyddol rhestredig eu hunain.
Mae pwyllgorau lleol yn cynrychioli’r canghennau cenedlaethol a rhanbarthol sydd â gofal dros dai a gerddi’r gymdeithas; maent yn gwrando ar faterion sy’n poeni’r aelodau ac yn trosglwyddo’r rhain i gyfarfodydd Cyngor y DU. Y weledigaeth gyffredin sy’n uno ein perchnogion a’n gofalwyr yw’n dyhead i glodfori a gwarchod y mannau arbennig hyn.
Mae Pwyllgor Cymru yn cynnwys cynrychiolaeth o dai’r gymdeithas ac mae’r cadeirydd hefyd yn aelod o Dai Hanesyddol. Yn gyffredin â Phwyllgorau eraill, cawn gefnogaeth gan staff ac ymgynghorwyr o Lundain, ond yn ogystal â’r rheini, mae gennym ymgynghorwr penodol i Gymru sy’n cyfathrebu’n uniongyrchol ag aelodau Senedd Cymru. Pan fo angen bydd yn trafod materion perthnasol i dai a gerddi Gymru ag aelodau llywodraeth y DU.
Yn ychwanegol at aelodau tai’r gymdeithas, rydym yn gwahodd cynrychiolaeth gan y cyhoedd a sefydliadau treftadaeth eraill i gefnogi ein gwaith; o ganlyniad mae nifer o’n mannau ar agor ar gyfer ymweliadau neu deithiau diwrnod, yn darparu llety dros nos, yn cynnal digwyddiadau neu’n serennu ar ffilmiau.
Ymunwch â Thai Hanesyddol
Dewch i ddysgu am ein treftadaeth am ond £68 y flwyddyn.
Mae cannoedd o dai, cestyll a gerddi gogoneddus dros Gymru gyfan a gweddill y DU yn cynnig mynediad am ddim i’n haelodau.
Hefyd: cewch derbyn ein cylchgrawn chwarterol, mwynhau ein darlithoedd misol ar lein, cael gwahoddiad cyfyngedig i brynu tocynnau am deithiau tu-hwnt-i’r-llen a manteisio ar ddewis eang o gynigion arbennig am wyliau, llyfrau a nwyddau eraill fydd at eich dant.