Ein gwerthoedd
Rydym yn cefnogi egwyddorion craidd Tai Hanesyddol y DU gan hefyd gydnabod a gwerthfawrogi’r hyn sy’n peri bod Cymru yn wahanol ac yn arbennig
Mae ein safleoedd ni’n bwysig
Mewn arolwg diweddar gwelwyd bod 93% o aelodau Tai Hanesyddol y DU yn agor eu tai a’u gerddi mewn rhyw ffordd neu’i gilydd i’r cyhoedd. Maent yn safleoedd lle gall cymaint o bobl gael budd ohonynt a’u mwynhau. Maent yn darparu cyflogaeth a thai sy’n hanfodol i bobl leol, yn aml mewn mannau gwledig gan ofalu bod cyfleoedd ar gael i warchod ac adfer cynefinoedd naturiol fel y gall cenedlaethau’r dyfodol eu gwerthfawrogi.
Mae Tai Hanesyddol Cymru yn seilio pob gweithgaredd ar bum credo sylfaenol:
Mae ein treftadaeth yn bwysig
Trychineb yw’r oll a gollwyd eisoes ond mae’r mannau sydd wedi goroesi yn wyneb pob trallod yn achos gorfoledd
Mae cymaint o enghreifftiau o dai coll ledled Cymru a allent fod yn cyfrannu miliynau o bunnoedd i economïau lleol ac i Drysorlys Cymru pe byddent wedi derbyn y gofal angenrheidiol cyn iddynt ddadfeilio’n ormodol.
Yn ystod y 200 mlynedd ddiwethaf, collwyd 370 o dai gwledig, ac yn sgil hyn eu ffermydd a’r cymunedau cynorthwyol. Cafwyd effaith drychinebus ar ein treftadaeth Gymreig, ein hiaith a’n diwylliant wrth i bobl orfod adael eu cymunedau gwledig i chwilio am waith.
Collwyd nifer o enghreifftiau o bensaernïaeth wych wrth i’r tai ddadfeilio. Lladratwyd casgliadau gwerthfawr o gelfyddyd gain a dodrefn gwerthfawr a’u gwerthu i brynwyr y tu hwnt i Glawdd Offa.
Mae’r tai hynny a oroesodd i’r 21ain ganrif drwy ymdrechion entrepreneuraidd nifer o elusennau a pherchnogion unigol bellach yn dwyn buddiannau enfawr i Gymru fel cyrchfannau i ymwelwyr a darparu cyflogaeth, cartrefi, iechyd a lles i’w cymunedau lleol.
Credwn y dylid gwarchod rhag colli rhagor o dai gwledig a gerddi Cymru drwy sicrhau bod y rhai sydd wedi goroesi yn gynaliadwy i’r dyfodol.
Dylid hybu perchnogaeth unigol
Perchnogion unigol yw’r ffordd orau i warchod ein treftadaeth genedlaethol
Mae perchnogion annibynnol yn aml yn deuluoedd sydd â’u tŷ hanesyddol yn gartref iddynt. Mae rhai yn ddisgynyddion o’r teuluoedd cyntaf i berchnogi’r eiddo tra bo eraill wedi dyheu drwy’u bywyd i geisio adfer tŷ hanesyddol. Mae gan berchnogion annibynnol berthynas ddofn â’u tai a’u gerddi ac maent yn gweithio’n galed i’w trysori yn wyneb pob argyfwng.
Mae syniadau arloesol gan berchnogion annibynnol. Bu hyn yn amlwg yn ystod y pandemig pan roedd gofyn i’r perchnogion addasu eu busnesau i’r rheoliadau newydd. Er mwyn cadw eu staff mewn gwaith, arbrofodd rhai oedd fel arfer yn cynnal priodasau drwy agor fel mannau gwely a brecwast neu ddarparu bwyd i fynd allan.
Mae perchnogion annibynnol yn aml yn dwyn adnoddau eraill atynt i gynnal a chadw eu hadeiladau gan sicrhau bod yr arian yn cael ei wario’n ofalus. Drwy hyn maent yn arbed costau atgyweirio ein mannau hanesyddol rhag defnyddio pwrs y wlad.
Mae ein hiaith a’n diwylliant yn bwysig
Rydym yn frwd wrth hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ym mhob gweithgaredd a gynhelir yng Nghymru
Yn ogystal â’u pwysigrwydd pensaernïol i Gymru, gellir olrhain perchnogaeth rhai o’n tai cofrestredig yn ôl dros ganrifoedd at gyfnod Uchelwyr Cymru a tharddiad traddodiadau barddol Cymru a’r iaith Gymraeg.
Mae’r tai cofrestredig hynny sy’n agor eu drysau i’r cyhoedd yn gyson a’r rhai eraill sy’n cynnal digwyddiadau elusennol achlysurol yn cyfrannu at y cyfle i eraill werthfawrogi celfyddyd, pensaernïaeth, gerddi, a thirwedd Cymru, nid yn unig i bobl sy’n byw yng Nghymru ond hefyd i ymwelwyr â’r wlad.
Mae ein gwefan Tai hanesyddol Cymru yn ddwyieithog ac rydym yn hybu pob un o’n tai cofrestredig i ddarparu gwybodaeth i ymwelwyr yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.
Mae pawb yn elwa
Mae cyfraniad hanfodol gan ein mannau ni i’r economi, yr amgylchedd a chymdeithas
I gwrdd â’r costau uchel o gynnal a chadw y mannau arbennig hyn, mae nifer o’n haelodau wedi sefydlu busnesau sy’n dod â chyflogaeth a thai fforddiadwy i bobl leol mewn ardaloedd gwledig.
Mae ein mannau cofrestredig ar flaen y gad wrth leihau eu hôl troed carbon a’u heffaith ar yr amgylchedd drwy warchod ac adfer cynefinoedd naturiol yn y wlad o’u hamgylch. Drwy wneud hyn, maent yn cyfrannu tuag at dargedau cenedlaethol Cymru i liniaru’r newid yn yr hinsawdd.
Mae nifer o’n mannau cofrestredig yn cynnig cyfleoedd i ddysgu crefftwaith, cadw’n heini, gweithgareddau iechyd meddwl, addysg, perthynas â’r gymuned yn ogystal â threfnu teithiau natur sy’n hybu iechyd a lles corfforol drwy werthfawrogi prydferthwch natur a’r wlad o’n cwmpas.
Mewn cyfnod arferol, mae ein tai yma yng Nghymru yn croesawu dros 192,000 o ymwelwyr pob blwyddyn gan gyfrannu £28m i economi Cymru.
I ddysgu rhagor ar sut mae ein tai a’n gerddi hanesyddol yn hybu eu cymunedau a’n cenedl drwy ddilyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ewch at ein Ein hanesion.
Darllenwch ein hanesionRydym yn gymorth i’n gilydd
Rydym yn gymdeithas gydweithredol ddielw a reolir gennym ni ein hunain ac yn gweithredu ar ran ein tai a’n gerddi cofrestredig
Drwy weithio ar y cyd gall perchnogion annibynnol rannu eu profiadau a’u gwybodaeth o sut orau mae gofalu am eiddo hanesyddol a datblygu gweithgareddau masnachol i godi arian.
Mae croeso mawr gennym i bawb sy’n teimlo’n angerddol dros dai a gerddi Cymru, eu cysylltiadau â Chymry nodedig a’r rhan a gawsant yn natblygiad celfyddyd a diwylliant Cymru dros y canrifoedd.
Drwy gydweithio, gall ein haelodau a’r mudiadau hynny sy’n rhannu ein hangerdd, sicrhau bod ein mannau gwerthfawr yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.