Galwch draw

Mae’r tai ar ein rhestr yn amrywio o dai neuadd bychain canoloesol sydd braidd heb eu diweddaru ers pan gawsant eu hadeiladu, hyd at gestyll mawreddog â’u casgliadau o gelfyddyd gain a chreiriau hanesyddol. Mae sawl ffordd i chi ymweld a gwerthfawrogi ein tai a’n gerddi. Galwch draw am ddiwrnod, ymunwch â thaith dywys, arhoswch dros nos neu efallai y byddwch am logi’r lle ar gyfer eich priodas neu ddigwyddiad arbennig.

Mae ein perchnogion a’n curaduron yn cydnabod eu braint o gael byw a gweithio mewn mannau hanesyddol.  Mae nifer ohonynt yn gwahodd y cyhoedd i ymweld a mwynhau eu tai a’u gerddi a thrwy hynny godi peth arian tuag at y gost o’u cynnal.

Gall aelodau Tai Hanesyddol ymweld â’r tai a’r gerddi hynny yng Nghymru ac ar draws y DU sy’n rhan o’n Cynllun Mynediad i Aelodau yn rhad ac am ddim.  Mae tai eraill yn cynnig pris gostyngol i aelodau i’w teithiau tywys Gwahoddiad i Ymweld.  Yn aml, y tywysydd fydd perchennog y tŷ neu rywun sydd â pherthynas agos â’r tŷ a bydd y daith yn cynnwys lluniaeth, megis paned o goffi boreol, te bach prynhawn, cinio canol dydd neu bryd nos.

Mae rhai o’n tai yn cynnig Llety i ymwelwyr.  Gall hyn fod yn wely a brecwast yn y tŷ, neu weithiau gellir llogi’r holl dŷ ar gyfer digwyddiad penodol megis priodas, pen-blwydd neu ddiwrnod corfforedig.  Mae nifer o’r tai a’r gerddi yn cynnal Digwyddiadau megis gwyliau cerdd, neu bartïon er mwyn codi arian ar gyfer atgyweirio neu achosion dyngarol eraill.

Os hoffech chi ymweld, dilyn taith, aros am gyfnod, llogi un o dai neu erddi’r gymdeithas yma yng Nghymru, neu weld pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill, yna cliciwch y botwm perthnasol a welwch isod.  Bydd hyn yn eich tywys at restr o’n holl fannau yn y DU.  Yno cewch weld dyddiadau ac oriau agor, prisiau mynediad, argaeledd y teithiau, manylion ar sut i gyrraedd draw a gwybodaeth am hygyrchedd.

Ymunwch â Thai Hanesyddol

Dewch i ddysgu am ein treftadaeth am ond £68 y flwyddyn.

Mae cannoedd o dai, cestyll a gerddi gogoneddus dros Gymru gyfan a gweddill y DU yn cynnig mynediad am ddim i’n haelodau.

Hefyd: cewch derbyn ein cylchgrawn chwarterol, mwynhau ein darlithoedd misol ar lein, cael gwahoddiad cyfyngedig i brynu tocynnau am deithiau tu-hwnt-i’r-llen a manteisio ar ddewis eang o gynigion arbennig am wyliau, llyfrau a nwyddau eraill fydd at eich dant.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr am y UD

Darllenwch ragor am ein hanes, derbyn cynnwys dethol, a chlywed beth sy’n digwydd yng Nghymru ac yng ngweddill y DU.

Gallwch ddadgofrestru unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen ar waelod ein ebyst.  Am wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch at ein polisi preifatrwydd.

This field is for validation purposes and should be left unchanged.