Hanes Castell Gwrych
Mae Castell Gwrych yn dŷ gwledig yng Ngogledd Cymru a restrwyd â Gradd I. Erbyn hyn mae’n adfail Gothig mawreddog sy’n atyniad poblogaidd i dwristiaid gan y ffilmiwyd y rhaglen deledu enwog ‘I’m a Celebrity - Get Me Out of Here’ yma. Mae’r Castell ar fin cael ei adnewyddu’n llwyr.
Bydd llawer o bobl yn gyfarwydd â Chastell Gwrych yng Ngogledd Cymru gan yma y ffilmiwyd y rhaglen deledu ‘I’m a Celebrity – Get Me Out Of Here’ yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, mae’r gwaith o adfer y castell yn ôl i’r gogoniant a fu yn llawer mwy heriol nag unrhyw un o’r treialon a welwyd ar y sioe!
Mae yno ffenestri Gothig, murfylchau a thyrrau yn ogystal â corps de logis drillawr sydd heb do parhaol na llawr i gerdded arno. Yn y ddwy asgell isaf mae ystafelloedd llwyr fawreddog ac yno fe welwch y grisiau marmor Eidalaidd ysblennydd a ystyriwyd unwaith yn un o ‘Saith Rhyfeddod Cymru’.
Gweledigaeth Castell Gwrych yw sicrhau bod dyfodol llewyrchus a chynaliadwy i’r castell a’r adeiladwaith sydd o’i gwmpas. Mae hyn yn cynnwys Tŵr y Fonesig Emily a’r ogofau sy’n rhan o gynllun y tirlun. Y prif nod yw sicrhau bod y mannau hyn yn apelgar, yn hygyrch ac yn ennyn ysbrydoliaeth i ymwelwyr presennol a newydd gan eu hannog i ddod draw, i gefnogi ac i fwynhau’r nodweddion hanesyddol hyn am lawer blwyddyn eto.
Yn ddiweddar, prynodd yr ymddiriedolaeth Borthdy Tan yr Ogo gan ei adnewyddu’n llwyr. Y porthdy hwn oedd y brif fynedfa wreiddiol, fawreddog i’r castell, ac mae’r gwaith a wnaethpwyd yno yn arwydd pellach o’r ymrwymiad i warchod a hyrwyddo treftadaeth y castell. Mae bellach yn llety gwyliau ac yn fan cynnal digwyddiadau.
Hanes Byr
Adeiladwyd Castell Gwrych ym 1812-22 gan Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh yn gofeb i’w deulu ac ynddo mae sawl nodwedd o hen gestyll Cymru.
Roedd yn blasty urddasol am dros 100 mlynedd, gyda’i stablau, bragdy, llaethdy, popty, tŷ iâ a’i gapel ei hun. Cafodd ei ddefnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel rhan o’r cynllun Kindertransport i gartrefu 200 o blant Iddewig. Wedi hynny bu’n barc thema oedd â sŵ a rheilffordd breifat fechan yn rhan ohono.
Ei ysbrydoli’n fachgen ifanc
Roedd Mark yn gyfarwydd â Chastell Gwrych, ger Abergele, Gogledd Cymru, ers pan oedd yn fachgen ifanc iawn.
Roedd Castell Gwrych yn nodwedd amlwg ar y tirlun lleol gyda’i 18 dŵr bach a’i dyrau mwy oedd yn codi uwchben pennau’r coed. Roeddwn yn teithio heibio iddo pob dydd ar fy ffordd i’r ysgol ac adre’n ôl. Wrth chwarae a chwilota yn adfeilion y castell a’r tiroedd o’i amgylch – 250 erw o gaeau a choed oedd yn gartref i beunod a pheunesau – cefais gipolwg o’r gorffennol.
Mae cof plentyn gen i o weld yr hen geginau, a’r ystafelloedd gweigion, un ar ôl y llall. Mae yno 120 o ystafelloedd,; roedd rhai yn parhau ag olion y trigolion fu’n byw yno. Rwy’n cofio gweld y gwydr lliw disglair. Roedd yr oll mor atgofus o ffordd o fyw oedd wedi hen fynd heibio ac yn iasol o dawel. Yn yr ogofau gerllaw credir bod tylwyth teg y Mabinogi yn byw. Dyma le sydd wedi’i blannu’n gadarn ym mytholeg Cymru.
Mae ysbrydion ac ellyllon yn cartrefu yma hefyd – unwaith fe welais i belen olau ar ben y grisiau marmor. Roedd yn hofran yno am ryw ddeg eiliad cyn diflannu. Cred rhai bod y ffenomen hon yn cynrychioli Winifred, Iarlles Dundonald. Cred eraill iddynt glywed carnau meirch anweledig yn carlamu ar hyd un o ffyrdd y castell.
Yna, un diwrnod yng nghanol y 1990au, wedi i mi gyrraedd y castell roedd tua 200 carafán yno ac ysbwriel dros y lle i gyd. Roedd y lle’n sgwat. Cyn hir roedd pob ased gwerthfawr wedi’i ddwyn oddi yno. Gwelais weithiau celf yn cael eu llosgi i gynnau tân. Roedd gweld y lle yn cael ei gam-drin mor wael wedi cael effaith ddirdynnol arnaf i. Anghofiaf byth mo arogl y lle. Arogl pydredd a malltod.
Wedi fy mrawychu a’m siomi cymaint, ysgrifennais at Dywysog Cymru a Tony Blair, y prif weinidog ar y pryd, i dynnu eu sylw at gyflwr truenus y castell. Ymatebodd y ddau a bu’r Tywysog Charles yn gefnogol i ni ers hynny.
Yr Ymddiriedolaeth Gadwraeth
Ymchwiliodd Mark i’r ffordd orau o sefydlu ymddiriedolaeth gadwraeth ac aeth ati, gam wrth gam, i wireddu hynny.
Yn fy marn i mae pensaernïaeth yn gelfyddyd. Ysgrifennais lyfr 50,000 gair ar y pwnc pan oeddwn yn 14 mlwydd oed ac yna mynychais Brifysgol Caerdydd i’w astudio ymhellach. Cefais gymaint o gefnogaeth gan Marcus Binney [cyn ohebydd pensaernïaeth y papur newydd The Times] ac fe sicrhaodd ef mae fi fyddai’r aelod oes anrhydeddus ieuengaf yr elusen gadwriaethol, Save. Gan Marcus y cefais yr ysbrydoliaeth i weld a allwn achub Castell Gwrych.
Gan mai ond 12 mlwydd oed oeddwn i bryd hynny, allwn i ddim bod yn ymddiriedolwr, felly cefais fy enwebu yn ysgrifennydd. Deuthum yn ymddiriedolwr wedi i mi droi 18 ac rwyf wedi bod yn ymddiriedolwr byth ers hynny.
Prynu’r castell
Roedd y castell wedi bod yn ôl ac ymlaen ar y farchnad ers amser ond yn 2018 aeth ar werth mewn ocsiwn. Roedd yn rhaid gweithredu ar frys neu mi fyddai’n rhy hwyr.
Rhaid oedd codi £1miliwn mewn cyfnod o chwe wythnos i brynu eiddo oedd wedi mynd â’i ben iddo, lle nad oedd cyflenwad trydan na dŵr – disgwyliad anhygoel o lafurus.
Dyna’r unig chwe wythnos yn fy mywyd pan nas es i o gwbl i weld y castell. Doeddwn i ddim am ei weld rhag ofn na fyddai’r cynnig yn mynd rhagddo ac na fyddwn byth yn gallu ei achub. Fodd bynnag, roedden ni mor ffodus â chael Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol o’n plaid. Hwy oedd yn fodd i brysuro’r cynnig ar ei ffordd. Roeddwn yng Nghaerdydd pan ddaeth yr alwad ffôn dyngedfennol ac roedd gofyn i mi fod yn swyddfa’r cyfreithiwr yn Llanelwy am 5 o’r gloch y prynhawn hwnnw. Dyna gyrraedd â phrin 15 munud yn sbâr.
I’m a Celebrity yn cyrraedd
Derbyniodd Mark neges e-bost gan ITV ac ar y dechrau meddyliodd bod rhywun yn tynnu’i goes, felly cafodd y neges ei hanwybyddu!
Ond daliodd ITV ati, ac o fewn 24 awr i ffiniau Awstralia gau [roedd y sioe wedi’i leoli yng nghoedwigoedd Awstralia am 16 mlynedd cyn hyn] arwyddwyd y cytundeb cyfrinachol. Castell Gwrych fyddai lleoliad rhaglenni 2020 I’m a Celebrity. Dyma gyfle rhagorol a ddaeth at ei gilydd ar yr unfed awr ar ddeg.
Yn ganlyniad i’r croeso gafodd I’m A Celebrity i’r castell daeth cannoedd o filoedd o ymwelwyr draw. Rydym wedi cynnal priodasau, digwyddiadau preifat a bod yn gefndir i ffotograffau gan gwmnïau megis Louis Vuitton ar gyfer eu hymgyrch werthu yn nhymor yr hydref 2021. Mae’r arian a godwyd gan bob yn o’r gweithgareddau hyn wedi ein galluogi i wneud rhagor o welliannau brys i’r castell.
Cymorth rhyfeddol i’r adnewyddu
Ym mis Awst 2023 derbyniodd Castell Gwrych £2.2m gan Gronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol fel rhan o’u Cronfa Ymateb Covid-19. Roedd hyn yn gymorth rhyfeddol o bwysig.
Gyda’r arian bydd yr ymddiriedolaeth yn gallu gwneud gwaith atgyweirio brys i’r adeilad. Bydd hyn yn cynnwys to a lloriau parhaol. Yn ddiweddar, datgelom y cynllun cyntaf ar gyfer strwythur y to. Derbyniodd hwn ymateb rhagorol gan y cyhoedd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd y tîm project yn brysur am y chwe mis nesaf yn paratoi ac yn cyflwyno cais cynllunio a chais am ganiatâd i do a lloriau adeilad rhestredig gael eu hadnewyddu.
Bydd y castell ar agor drwy gydol y gwaith adnewyddu a byddwn yr annog ymwelwyr i fod â rhan eu hunain yn y cam mwyaf cynhyrfus hwn o hanes diweddar y castell. Rydym yn arbrofi â dulliau newydd o gynnwys ymwelwyr o bob oed. Byddwn yn datgelu manylion yn y misoedd nesaf.
Caiff aelodau Tai Hanesyddol fynediad am ddim i Gastell Gwych! Mae’r Castell ar agor i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn, er bod yr union ddyddiadau yn dibynnu ar adeg y flwyddyn, felly edrychwch ar y wefan i weld beth yw’r oriau agor.
Gellir llogi’r Castell ar gyfer priodasau, digwyddiadau eraill a ffilmio. Mae llety tros nos ar gael ym Mhorthdy Tan-yr-Ogo sydd o fewn tir y stad. Fe’i hadeiladwyd i fod yn borthdy trawiadol ac yn fynedfa fawreddog i Gastell Gwrych.
Ymunwch â Thai Hanesyddol
Dewch i ddysgu am ein treftadaeth am ond £68 y flwyddyn.
Mae cannoedd o dai, cestyll a gerddi gogoneddus dros Gymru gyfan a gweddill y DU yn cynnig mynediad am ddim i’n haelodau.
Hefyd: cewch derbyn ein cylchgrawn chwarterol, mwynhau ein darlithoedd misol ar lein, cael gwahoddiad cyfyngedig i brynu tocynnau am deithiau tu-hwnt-i’r-llen a manteisio ar ddewis eang o gynigion arbennig am wyliau, llyfrau a nwyddau eraill fydd at eich dant.