Hanes Parc Iscoed

Wedi dirywiad yn ffawd Parc Iscoed roedd ei ddyfodol mewn perygl, ond mae cynllun adnewyddu dros ddwy genhedlaeth wedi’i drawsnewid yn gyntaf i fod yn gartref annwyl i’r teulu ac yna yn lleoliad llewyrchus ar gyfer digwyddiadau a phriodasau, a thrwy hyn wedi bod yn fodd i sicrhau ei ddyfodol.

Ym 1843 prynwyd Parc Iscoed gan Philip Lake Godsal.  Roedd ei dad wedi bod yn wneuthurwr coetshis o fri ac mae’r teulu Godsal wedi llwyddo o drwch blewyn i fyw ym Mharc Iscoed fwy neu lai ers hynny.

Yn blasty gwledig o ganol y 18fed ganrif a tharddiad cynharach sydd wedi’i ddiogelu’n ofalus cafodd ei restru â gradd II* am nodweddion ei bensaernïaeth a bod ei gymeriad hanesyddol wedi’i gyfoethogi gan gasgliad o adeiladau gwasanaeth o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif a gafodd eu diogelu’n ofalus.

(Rheswm CADW dros ei restru)

Darllenwch ragor am hanes parc iscoed

Ei drawsnewid yn lleoliad priodas

Dyfodol ansicr

Gan fod llawer o’r incwm o ffermydd y stad wedi’i golli a bod angen gwaith costus i’w atgyweirio, erbyn y 1980au roedd dyfodol Parc Iscoed yn ansicr iawn.

Wedi iddo symud i Iscoed ym 1964 llwyddodd fy nhaid (Philip H Godsal) adfer ac ailaddurno blaen y tŷ oedd â rhannau ohono wedi’u cau ers yr Ail Ryfel Byd.  Oherwydd cyflwr yr economi a’r newidiadau cymdeithasol wedi’r rhyfel ni allai’r stad a’i ffermydd dalu am adfer y tŷ a’i gynnal fel y dymunai.  O’r herwydd fe’i gorfodwyd i werthu rhan helaeth ohono ar gyfnod pan oedd prisiau tir a phrisiau tai yn eithriadol isel.  Effaith colli’r incwm hwn oedd nad oedd digon o fodd i gadw Iscoed fel y dylid.

Ystyriodd fy nhaid werthu Iscoed, er mai pris isel fyddai’n ei gael amdano yn y 1970au a dechrau’r 1980au.  Roedd hi’n gyfnod anodd iawn ar blastai gwledig yng Nghymru a rhaid oedd meddwl na fyddai dewis ar gael ond cael gwared â’r tŷ a hynny am ddim.  Yn anffodus, cyn i hyn ddigwydd bu farw fy nhaid yn ŵr ifanc a bu’r tŷ yn wag am ddwy flynedd tra bod fy nhad (Philip Caulfeild Godsal) yn ceisio penderfynu beth oedd y peth gorau i’w wneud â’r tŷ.  Gwnaeth gais llwyddiannus am Eithriad Amodol fel nad oedd rhaid i ni dalu Treth Trosglwyddo Cyfalaf (neu Dreth Etifeddiant erbyn hyn) ar yr amod nad oedd dim i’w werthu.  Heb hyn, byddai dim gobaith i Iscoed fod ar gael i’r cenedlaethau nesaf.  Penderfynodd fy nhad wneud y dewis eofn i warchod Iscoed yn wyneb sawl her posibl er bod yr Eithriad Amodol mewn grym.

Bu fy nhad a’m llysfam yn byw yn Iscoed am 25 mlynedd a gwnaethant waith rhyfeddol yno.  Gyda chymorth rhai grantiau hanfodol a gwerthu’n strategol llwyddwyd i osod to newydd ar brif ran y tŷ, cael gwared â’r chwilod gwyliadwriaeth angau ac achub yr adeiladau allanol oedd fin dymchwel.  Daeth Iscoed yn gartref teuluol annwyl unwaith eto er erbyn 2008 (pan roeddem ni’n ystyried symud i Iscoed) roedd gwir angen adnewyddu rhannau o adeiledd y tŷ, yn benodol felly, ail osod y gwifrau trydan, y plymio a’r gwresogi os oedd y tŷ i oroesi.  Roedd llawr gwaelod asgell y llyfrgell nad oedd wedi’i ddefnyddio ers cyfnod fy hen hen daid yn 1926 mewn perygl enbyd.

Cynllun busnes

Wrth wynebu’r golled debygol o gartref hanesyddol, hyfryd ac annwyl, aethom ati i greu cynllun busnes fyddai’n sicrhau ei oroesiad.

Roedd busnesau da gan Susie, fy ngwraig, a minnau yn Llundain ac roeddem yn mwynhau ein bywyd yno.  Rhaid oedd ystyried yn hir ac yn galed a oeddem am symud i Isgoed ac ysgwyddo’r holl gyfrifoldeb oedd ynghlwm â hynny.  Byddai’n rhaid rhoi’r gorau i’n bywyd a’n busnesau yn Llundain a neilltuo’n holl adnoddau, amser ac egni i Iscoed.  Daeth newid i reolau priodi oedd yn golygu bod posibl cynnal seremonïau gwladol mewn tai trwyddedig.  Daeth llygedyn o obaith drwy hyn, gan efallai y gallem greu busnes y byddai’n ein galluogi i godi’r swm sylweddol o arian fyddai ei angen i adnewyddu ac ailddatblygu Iscoed a hefyd ddarparu’r incwm fyddai’n talu am ei gynnal i’r dyfodol.

Wedi ystyried sawl syniad busnes mewn manylder, y penderfyniad oedd mai cynnal priodasau a digwyddiadau eraill fyddai wrth graidd ein gweledigaeth ni am Iscoed.  Roedd sawl rheswm dros benderfynu ar y model busnes hwn:

  1. Addasrwydd y tŷ a’r gerddi
  2. Lleoliad daearyddol y tŷ a’r farchnad bosibl
  3. Y ffaith y byddai’r busnes hwn yn caniatáu i’r teulu gadw’r tŷ yn gartref teuluol
  4. Y gallu i wneud y gwaith fesul tipyn ac felly dalu am yr adnewyddu wrth i’r busnes ddatblygu
  5. Y gallu i wneud y gwaith adeiladu rhwng cyfnod y digwyddiadau
  6. Byddai’n fusnes a fyddai’n elwa o hanes y teulu, cymeriad a phersonoliaeth y tŷ
  7. Y gallu i greu lleoliad fyddai â Chynnig Gwerthu Unigryw cryf
  8. Pe byddai’n llwyddiant, byddai digon o le i ehangu
  9. Byddai’n fusnes yr oedden ni’n hyderus y gallwn wneud iddo lwyddo ac y byddem yn mwynhau ei redeg
  10. Byddai’n fusnes a fyddai nid yn unig yn gymorth i dalu am yr adfer a’r adnewyddu ond fyddai hefyd yn parhau i dalu am gynnal a chadw’r tŷ i’r dyfodol.

Dyma restru ein bwriadau ar gyfer y Project Adnewyddu fel a ganlyn:

  • Adfer a datblygu mewn dull a fyddai’n parchu ac mewn cytgord â hanes, pensaernïaeth a chymeriad y cartref teuluol a fu yno erioed.
  • Diogelu hanes y tŷ ond cyfuno hyn â’n syniadau ni ac elfennau cyfoes mewn dull a fyddai’n dod â bywyd ac egni newyddi’r lleoliad a’i wneud yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif ac yn barod i wynebu cynulleidfa newydd.
  • Creu mangre fyddai’n gystadleuol nid yn unig yn lleol ond yn genedlaethol ac yn rhyng-genedlaethol.
  • Creu lleoliad a allai groesawu llawer mwy o bobl nag erioed o’r blaen, gyda mannau penodol ar gyfer priodasau a digwyddiadau.
  • Sicrhau y byddai’r isadeiledd yn ystyried datblygiadau’r dyfodol.
  • Amseru’r adnewyddu fel y byddai pob cam o’r ailddatblygu a’r cynnydd yn gymorth i ariannu’r cam nesaf.
  • Caniatáu i’r cynlluniau nesaf gael eu dylanwadu gan yr adborth a roddwyd gan y gwesteion.
  • Gweithio tuag ar ddyfodol mwy cynaliadwy.

Cynlluniau ar gyfer yr 21ain ganrif

Ag un llygad ar y gorffennol, dyfeisiwyd cynllun fyddai’n gweddu i’r dyfodol ac fe gawsom ganiatâd i’r cynllun hwn oedd hefyd yn cynnwys modd i ehangu yn y dyfodol.

Y rhan o’r tŷ oedd fwyaf angen sylw, a hynny ar frys, oedd llawr gwaelod asgell y Llyfrgell. Yng nghyfnod Fictoria, cafodd y fan hyn ei gau’n fwriadol oddi wrth weddill y tŷ er mwyn ei ddefnyddio fel lle i’r gweision fyw yno ac i leoli’r ceginau.  Erbyn hyn, ni ellid defnyddio’r lle o gwbl.  Gan na fu neb yno ers i’r gweision adael ym 1926 roedd wedi mynd â’i ben iddo yn llwyr, i’r graddau ei fod yn beryglus i adeiledd y tŷ cyfan.  Roedd dŵr wedi achosi difrod difrifol yno, roedd un polyn tenau oedd eisoes yn braenu yn cynnal llawr y llyfrgell uwchben, ac roedd iorwg yn tyfu y tu mewn a’r tu allan.  Roedd yn rhaid trin yr ardal hon yn gyntaf oll.

Byddai adennill y rhan hon yn peri newidiadau mawr i adeilad Gradd 11*.  Drwy weithio â Clare Craven, ein pensaer cadwraeth, fe ddatblygwyd dadleuon hanesyddol a phensaernïol cryf i gyfiawnhau ein cynlluniau.  Buom yn chwilio am syniadau o’r gorffennol a daethom ar draws cynllun 1772 o lawr y tŷ oedd yn dangos sut oedd pethau cyn yr ymyrraeth fu yn oes Victoria.  O’n plaid ni, dangosodd bod llawr gwaelod asgell y llyfrgell yn un ystafell fawr yr un maint â’r llyfrgell uwchben.  Dangosodd hefyd y corridor canolog fyddai wedi cysylltu’r prif dŷ ag asgell y llyfrgell ar y llawr gwaelod.

Yn nodwedd amlwg ar ochr yma’r tŷ oedd yr hen simneiau Fictoraidd oedd bellach yn ddiangen, ac nad oedd yn ychwanegu dim at harddwch y tŷ.  Wedi’u cuddio y tu ôl i’r simneiau dadorchuddiwyd gwaith bric ar ffurf bwa oedd yn awgrymu bod bwâu o faint sylweddol wedi bod yn y talcen hwn.  Defnyddiwyd ffurfiau’r bwâu hyn i ddylunio’r drysau mawr fyddai’n arwain i’r ardd neu at babell fawr yno pe byddai ei hangen

Wedi rhagor o ymchwil i hanes pensaernïol y tŷ ac ystyried amrywiol nodweddion oedd yno’n bodoli eisoes, lluniwyd ystafell neilltuol â golwg fras eglwysig arni ar gyfer seremonïau priodas.  Mae hi’n ystafell ysgafn, a lle ynddi i 150 o westeion.  Bellach gellir mynd o’r ystafell hon i’r ardd, sydd hefyd yn welliant mawr.  Drwy newid y golau a symud y llenni i ddatgelu’r bar, gellir trawsnewid yr ystafell yn lle delfrydol i gynnal parti.

Nid oedd angen cymaint o waith mawr ar adeiledd blaen y tŷ ond roedd gofyn ail weirio ac ail blymio.  Er nad oedd angen dymchwel unrhyw wal na newid strwythur yr ystafelloedd roedd y llanast a grëwyd yn peri bod rhaid ail baentio ac ail addurno’r holl le.  Yn rhan flaen y tŷ oedd gwir hanes, cymeriad a phersonoliaeth yr adeilad ac roedd hi’n hanfodol bod hyn oll yn cael ei ddiogelu wrth i ni osod y tŷ yn ôl ar ei draed.  Ar yr un pryd, roeddem ni’n anelu at ei dacluso a’i symleiddio a thrwy ddefnyddio syniadau cyfoes rhoi gwedd gyffroes a modern i’r rhan hon; un a fyddai’r fwy perthnasol i’r oes hon.

Roeddem am addurno pob un ystafell wely yn wahanol a dyfeisgar (dyma nodwedd sydd bellach yn dod â bri i ni yma yn Iscoed).  Cawsom gymorth yn hyn o beth gan y cynllunydd Suzy Hoodless.  Y cam cyntaf oedd edrych ar hen ddodrefn a lluniau oedd wedi bod yn rhan o’r tŷ ers oesoedd.  Hyn oedd ein man cychwyn.  Roeddem am ddiogelu awyrgylch deuluol y tŷ, ei bersonoliaeth a’i hanes ond eto mwynhau’r rhyddid i ddefnyddio defnyddiau lliwiau a phapur wal cyfoes.

Bu’r ardd yn rhan hanfodol o’r adnewyddu ac roedd angen llawer o waith ac ymdrech yma.  Cawsom gymorth y dylunydd gardd Michael Balston i osod y seiliau’r cynllun.  Drwy’r seiliau cedyrn hyn llwyddodd i greu ffurfioldeb i’r ardd a pherthynas amlwg rhwng y tir a’r tŷ.  Cafodd Xa Tollemache y dasg o gynllunio’r plannu hyfryd a rhamantus sy’n cydweddu i’r dim â seiliau ffurfiol Michael.

Cyn gynted ag oedd braslun cyntaf y cynllun (oedd hefyd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer yr ardd) yn barod, trefnwyd cyfarfod â Clare Craven, CADW, Y Gymdeithas Sioraidd, a’r Awdurdod Cynllunio Lleol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yr oll o gwmpas yr un bwrdd ar yr un pryd.  Yn ein cyflwyniad, roedd angen gwneud yn gwbl glir i bawb sut roeddem yn ymwybodol o hanes a chymeriad yr adeilad a sut y dylanwadodd y gorffennol ar gymaint o’n penderfyniadau cynllunio.

Roedd CADW a’r Gymdeithas Sioraidd yn gefnogol iawn i’n hymdrechion a gwnaethpwyd hyn yn glir i’r cynllunwyr.  Gofynnwyd am adborth i’w gynnwys yn y cynlluniau terfynol wrth geisio am ganiatâd i barhau ac ymuno â rhestr yr adeiladau rhestredig.  Drwy hyn, roedd y cynllunwyr yn deall eu bod yn rhan greiddiol o’r project ac roedd y cyfarfod hwn yn un hanfodol i ni wrth i ni geisio am bob caniatâd oedd rhaid ei gael er mwyn i’r gwaith o atgyweirio fynd rhagddo’n llwyddiannus.

Yna aethom ar yr Adran Gynllunio, gan gyflwyno cynlluniau nid yn unig ar gyfer y tŷ ond hefyd sut y byddem yn adnewyddu ac yn addasu’r holl adeiladau llai.  Drwy sicrhau caniatâd cynllunio a chael ymuno â’r adeiladau rhestredig, a’i gyflwyno yn un cynllun cyfun gallem sicrhau rhwydd hynt i ddatblygiadau eraill yn y dyfodol.

Yr her nesaf o’n blaenau oedd sut i ariannu’r adnewyddu sylweddol oedd ei angen.  Am sawl rheswm, doedd dim posibl codi arian drwy werthu unrhyw ased.  Ar wahân i gymhorthdal bychan, ond un oedd yn bendant i’w groesawu, gan CADW, yr unig ddewis realistig oedd mentro a benthyg y swm enfawr o arian oedd ei angen gan ddefnyddio’r asedau yn warant.

Datblygwyd y cynllun busnes dros gyfnod o ryw 6 mis.  Erbyn i ni symud o Lundain ym mis Medi 2009 roeddem wedi cwblhau’r cynllun, wedi sicrhau’r arian a chael y caniatâd cynllunio.  Roeddem hefyd wedi trefnu bod ein priodas gyntaf i ddigwydd ar 1 Mai 2010.  Golyga hyn mai cwta 10 mis oedd gennym ar gyfer cwblhau’r cam cyntaf.

Y project adnewyddu

Rhaid oedd goresgyn sawl rhwystr ariannol a dysgu byw mewn safle adeiladu a dyddiad y briodas gyntaf ar ein gwarthaf.

Tra ein bod ni ar ganol symud o Lundain, cawsom ein dal gan yr argyfwng ariannol a newidiodd hyn safbwyntiau’r banciau i gyd.  Roeddem wedi cytuno ar faint ac amodau ein benthyciad ac wedi trefnu bod yr adeiladwyr am ddechrau.  Pan oedd y gwaith ar fin dechrau simsanodd hyder y banc a chawsom alwad ganddynt yn dweud, er i ni gytuno ar y cytundeb blaenorol, mai bellach ond 60% o’r hyn a addawyd fyddai ar gael i ni ar gyfer y cam cyntaf.  Dyna oedd ergyd drom a siomedig ar ddechrau’r gwaith.

Yn ffodus, llwyddwyd i ddod o hyd i ffynhonnell arall o arian yn weddol sydyn, ond roedd hyn yn fwy costus i ni ac roedd dau fis wedi mynd heibio, a’r amserlen yn dynn beth bynnag.  Cawsom gwmni adeiladu Cymreig, Inner World, o Fangor i ddechrau ar y gwaith.  Roedd llu o weithwyr ganddyn nhw, ac roeddynt oll yn hollol wych.  Cyn gallu dechrau roedd yn rhaid gwaredu’r asbestos oedd dros y peipiau i gyd ac ar nenfwd y seler.  Roedd hyn yn gostus ac yn dwyn amser prin.

Wrth i’r gwaith adeiladu ddechrau o’r diwedd, roedd Susie a fi a’r ddau blentyn bach yn gwersylla mewn un ystafell ym mlaen y tŷ.  Roeddem ill dau yn goruchwylio’r gwaith gyda chymorth Clare ein pensaer a Blethyn Jones, fforman y gwaith.  Roedd hyn ar ben sefydlu ein busnes, llunio gwefannau, marchnata, gwneud ein gorau i berswadio cyplau mai hwn fyddai’r lle delfrydol ar gyfer eu priodas pan nad oedd dim i’w weld ond llwch a gwaith adeiladu, yn ogystal â cheisio byw bywyd teuluol.

Er yr holl rwystrau, a cholli dau fis o’r cyfnod adeiladu, llwyddodd yr adeiladwyr i ddwyn yr holl waith i ben funudau cyn ein priodas gyntaf.

Ein blwyddyn gyntaf ar y gwaith

Unwaith i’r hwrli bwrli o geisio gorffen yr holl adnewyddu mewn pryd a’r priodasau cyntaf wedi mynd rhagddynt yn llwyddiannus, rhaid oedd i ni addasu i realiti byw bywyd pob dydd mewn lleoliad priodas.

Cynhaliwyd ein priodas gyntaf ar 1 Mai 2010 gydag ond 3 ystafell wely, ystafell ar gyfer parti a phabell fawr tros dro i holl westeion y neithior gael eistedd.

Gan fod ein holl sylw wedi’i hoelio ar y gwaith adeiladu, addurno’r ystafelloedd, tacluso’r gerddi, sefydlu a marchnata ein busnes, yn sydyn, rhai wythnosau cyn y briodas gyntaf sylweddolom nad oedd gennym y syniad lleiaf am beth oedd o’n blaenau.  Doedden ni erioed wedi trefnu prodas, erioed wedi gweithio y ôl i far, doedden ni heb brofi bod yr offer newydd yn gweithio a doedden ni heb dderbyn unrhyw hyfforddiant o gwbl, heb sôn am weddill y staff.  Roedd hi’n anodd i ni ddirprwyo gan na wyddom pa swyddi oedd angen eu dirprwyo!

Roedd y briodas gyntaf yn brofiad arswydus i ni, ond rywsut fe weithiodd popeth yn berffaith yn y pen draw.  Roedd sawl panig a thrychinebau agos o’n hochr ni ond o du’r briodfab a’r briodferch a’u gwesteion, aeth popeth rhagddo’n gwbl rwydd.  Wedi i ni ffarwelio â hwy y diwrnod hynny roedd y teimlad ein bod wedi llwyddo ar ein cynnig cyntaf yn un penigamp.  Roedd adwaith pawb at yr adnewyddu yn fendigedig a hyd yn oed yn well na’r hyn roeddem wedi’i ddisgwyl.  Roedd hi wir yn codi calon i weld y gwesteion yn mwynhau bod yn y tŷ a’r gerddi ac yn cael y fath hwyl yno.  Roedd hi fel petai bywyd newydd wedi dod draw i’r tŷ.

Er mwyn i’r busnes lwyddo yn yr hir dymor, roedd rhaid rhoi’r ystyriaethau busnes o flaen pob dim.  Roedd yr adnewyddu blaenorol wedi bod ar wedd fasnachol a busnes y tŷ a doedd dim dewis ond aros tan i’r busnes ddod ar ei draed cyn gallu dechrau ystyried adnewyddu ein rhan ni o’r tŷ.  Am dair blynedd roeddem ni yn byw mewn ystafelloedd oedd yn union uwchben y bar a’r llawr dawnsio.  Unwaith i’r band ddechrau i lawr grisiau, byddai’n fflat ni yn ysgwyd i rythm y gerddoriaeth.

Llwyddwyd i gynnal 25 priodas y flwyddyn gyntaf honno oedd yn wir brofi’r farchnad ac yn rhoi hyder i ni ac i’r banc i symud ymlaen â’r camau nesaf.

Y datblygiad nesaf

Wrth i ni fuddsoddi’n gyson yn y busnes oedd yn cynyddu’n gyflym roedd ein dyled yn parhau yn sylweddol ond roedd yr ehangu yn creu cynnydd yn ein busnes oedd yn gymorth i leihau’r ddyled honno.

Mae sefydlu unrhyw fusnes newydd sbon yn dod a’i bwysau ei hun ond roedd rhaid i ni ddysgu gwneud hyn o’r cychwyn cyntaf a rhedeg y busnes yr un pryd.  Doedd gennym ddim systemau gwaith na phrosesau i droi atynt ac yn sydyn roedd yn rhaid i ni ddysgu sut oedd rheoli nifer o bobl, a ninnau erioed wedi cyflogi gweithwyr o’r blaen.  Roedd ein horiau gwaith yn hir, 7 niwrnod yr wythnos, gan geisio’n daer i ofalu bod ein plant yn hapus ac yn teimlo’n ddiogel.  Roedd yna bobl i mewn ac allan o hyd – staff, cleientiaid, ymwelwyr i’w tywys o amgylch ac adeiladwyr, felly doedd dim preifatrwydd i’w gael i ni.  Doedd dim llinell derfyn rhwng ein busnes a’n bywyd teuluol.  Yng nghanol yr holl firi hyn esgorodd Susie ar ein trydydd plentyn, Cecily.  Wrth gwrs roedd hyn yn gwbl anhygoel, ond golygai gynnydd ingol yn ein horiau gwaith, poendod am arian, y sŵn o’r ystafell ddawnsio a’r diffyg preifatrwydd.

Ym mis Ionawr 2013 trawsnewidiwyd yr hen ystafell fwyta yn gegin i’r teulu, cawsom ein drws ffrynt ein hunain a llwyddwyd i neilltuo rhan o’r ardd yn fan preifat i’r plant.  Adnewyddwyd yr y llawr uchaf yn le i ni fyw ynddo yn hytrach nag yn asgell y llyfrgell.  O’r diwedd roedd gennym le gymharol dawel i’r teulu i fyw ynddo – rhan o’r tŷ sydd ar wahân i sŵn a bwrlwm y priodasau a’r digwyddiadau eraill.

Yna addaswyd dwy stabl ac adnewyddwyd yr hen olchdy gan greu 5 ystafell wely ychwanegol ar gyfer ymwelwyr.  Roedd hyn yn gwneud y lle yn fwy atyniadol i gynnal priodasau yma.  Roedd ein busnes yn ffynnu a chan ein bod ni wedi symud o asgell y llyfrgell, adnewyddwyd y llyfrgell a chrëwyd pum ystafell wely en-suite yn hen ystafelloedd y gweision  Felly, wedi 8 mlynedd daeth adnewyddu’r tŷ i ben ac roedd nifer y priodasau yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Yn 2017 addaswyd rhes o stablau yn yr iard ger y tŷ i greu cegin newydd oedd yn ein galluogi i wneud yr arlwyo ein hunain.  Cyflogwyd tîm o bedwar cogydd fyddai â chyfrifoldeb dros bob agwedd o’r bwyd.  Addaswyd y cerbyty gyferbyn gan greu man arall i ddigwyddiadau â’i gegin brasserie ei hun a swyddfeydd ar y llawr cyntaf ar gyfer y staff oedd yn cynyddu’n gyflym.  Ein nod oedd ennill enw da am fwyd anhygoel o ran safon a hefyd ehangu’r busnes i gyfeiriadau eraill.

Lluniwyd rhaglen lawn o glybiau swper, cinio Sul, te bach prynhawn a digwyddiadau eraill oedd yn cynnwys prydau bwyd.  Drwy hyn roedd cynnydd yn ein marchnad fel bod gennym 110 priodas yn ein dyddiadur, llawer o bartïon preifat ac ystod lawn o’n digwyddiadau ni yma yn Isgoed.

Her annisgwyl

2020 oedd y flwyddyn i ni ddathlu 10 mlynedd o waith caled a buddsoddi cyson yn ein busnes - gyda’r disgwyl y byddai fenter a’n hymdrechion yn wir arddangos eu gwerth. Ond ym Mis Mawrth 2020 cawsom oll ein taro gan Covid. Daeth hwn â phwysau enfawr ar ein busnes.

Yn sydyn ddigon daeth ein holl incwm i ben.  Roedd cyplau am ganslo eu dathliadau ac yn gofyn am ad-daliad a doedd dim golwg o welliant o’n blaenau.  Roedd trin â’r sefyllfa hon yn hunllefus.  Rhaid oedd ceisio cadw’r cyplau yn optimistig gan ddweud y byddai eu priodas yn digwydd maes o law a’u perswadio i ohirio yn hytrach na chanslo’u dathlu.  Gan ein bod wedi sefydlu perthynas agos â nifer o’n cyplau, cytunodd y mwyafrif i ohirio ac nid canslo eu priodas.  Wrth i’r pandemig rygnu ymlaen, rhaid oedd gohirio dro ar ôl tro, bedair gwaith i rai cyplau.  Ar y dechrau, cawsom gefnogaeth y banciau a chodwyd benthyciad Biwro Gwybodaeth Credyd (CBils) o £250,000, ond daeth hyn yn fwyfwy anodd wrth i’r pandemig barhau a gwrthod unrhyw fenthyciad pellach wnaethon nhw – doedd unman gennym i’w droi.

Llwyddwyd i oroesi hyn oll diolch yn bennaf i’r ail rownd o Gymhorthdal Adfer Diwylliant gan Senedd Cymru.  Gan y buom yn aflwyddiannus ar y rownd gyntaf roeddem yn hynod betrus y tro hwn gan dyma’r unig obaith oedd gennym erbyn hyn.  Mawr fu’r rhyddhad ac roedd ein diolch yn gwbl ddiffuant i Senedd Cymru pan glywsom fod ein cais wedi bod yn llwyddiannus.  Gyda’r grant hwn llwyddwyd i ailafael ac i gynnal priodasau a derbyn incwm unwaith eto.  Drwy hyn arbedwyd nid yn unig ein busnes ni ond tua 60 o swyddi eraill yn ogystal.

Y dyfodol

Mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol wedi’u dylanwadu’n drwm gan ein hawydd i ddatblygu’n fenter gynaliadwy.

Gan ein bod wedi buddsoddi mewn bwyler bio-màs rydym bellach yn ystyried sut y gall ein gardd sydd wedi’i hesgeuluso am yn hir gynhyrchu bwyd a blodau unwaith eto ar gyfer y busnes priodasau

We will update this part of our case study as this develops …

Yng ngeiriau Phil Godsal:

Yr ethos craidd sydd gennym ni yma yw mai cartref teuluol annwyl yw hwn sydd hefyd yn lleoliad i briodasau, partïon a dathliadau eraill. Rydym am i’n gwesteion ei fwynhau fel pe tasai’r lle yn gartref iddynt hwy dros y cyfnod y maent yma. Mae’n bwysig i ni ein bod yn creu perthynas agos â phawb sy’n dod yma boed hynny i weithio neu fel gwestai; rydym yn cyflogi pobl leol, yn llogi adeiladwyr lleol a’n nod yw cydweithio ym mhopeth a wnawn.

Manteision i’r Gymuned

Erbyn hyn mae Iscoed yn cyflogi 19 aelod o staff llawn-amser, 87 aelod rhan-amser a 2 brentis.  Mae’r mwyafrif o’r rhain naill ai yn dod o’r ardal leol neu mae ganddynt gysylltiadau teuluol â’r ardal.

Mae nifer o’r busnesau lleol yn elwa o weithgareddau Parc Iscoed.  Mae’r rhain yn cynnwys ffermwyr, adeiladwyr, cynhyrchwyr bwyd, gwestai, mannau gwely a brecwast, cwmnïau tacsis a bysiau, cwmnïau trin gwallt a pharlyrau harddu, artistiaid, ffotograffwyr, siopau dillad priodas, gwerthwyr blodau a cherddorion.

Mae Eglwys y Plwyf yn cyd-weithio’n agos ag Iscoed.  Mae’r cyplau hynny sydd am ddathlu eu priodas ym Mharc Iscoed ond sydd am gynnal eu gwasanaeth yn yr eglwys leol yn cyfrannu tuag at gynnal yr eglwys, ac wedi bod yn fodd i gynyddu nifer y gynulleidfa a hybu’r ymdeimlad o gymuned o fewn yr eglwys a’r Plwyf.

Mae dau dîm gan y clwb criced lleol ac maent hwy a chynllun hyfforddi ieuenctid yn defnyddio llain griced a phafiliwn Iscoed.  Cynhelir dosbarthiadau Pilates a chynlluniau ffitrwydd yn Iscoed ac mae rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus diogel a chyfleoedd i farchogaeth merlod drwy diroedd y stad.

Mae cinio Gŵyl Dewi, te Nadolig a’r cyfarfodydd hwyliog a drefnir gan y Plwyf yn denu tua 150 o bobl leol ynghyd ag eraill o bell.

Mae Parc Iscoed yn cyfrannu at elusen ysgol Higher Wych ac yn casglu arian ar ei rhan.  Bwriad yr elusen yw cynnig cymorth ariannol i gynorthwyo pobl ifainc lleol i wireddu eu breuddwyd.

1400

Gwesteion i’n priodasau a’n digwyddiadau pob blwyddyn

106

Aelodau staff llawn a rhan amser

Mae Parc Iscoed ar agor dan y cynllun Gwahoddiad i Ymweld, i briodasau a digwyddiadau eraill gan gynnig gostyngiad i aelodau Tai Hanesyddol.

ewch at Barc Iscoed ar wefan y du

Llwyddiannau a Gwobrau

Ail wobr Sotheby’s and Historic Houses Restoration 2010

Enillydd Hudsons Heritage Awards 2012 am Lety Dros Nos

Hudsons Heritage Awards 2011 – y Lleoliad Priodasau Gorau

CLRA Rural Business Awards 2017 – Entrepreneur Gwledig y Flwyddyn – Cymeradwyaeth Uchel

Lleoliad Priodasau y flwyddyn gan Bridebook 2016

Gwobr Aur Croeso Cymru 2018

Gwobr Aur Croeso Cymru 2019

Ymunwch â Thai Hanesyddol

Dewch i ddysgu am ein treftadaeth am ond £68 y flwyddyn.

Mae cannoedd o dai, cestyll a gerddi gogoneddus dros Gymru gyfan a gweddill y DU yn cynnig mynediad am ddim i’n haelodau.

Hefyd: cewch derbyn ein cylchgrawn chwarterol, mwynhau ein darlithoedd misol ar lein, cael gwahoddiad cyfyngedig i brynu tocynnau am deithiau tu-hwnt-i’r-llen a manteisio ar ddewis eang o gynigion arbennig am wyliau, llyfrau a nwyddau eraill fydd at eich dant.