Hanes Plas Cadnant

Dyma un o ‘gyfrinachau gorau Gogledd Cymru’. Mae Plas Cadnant yn stad unigryw o 200 erw mewn cwm hyfryd ar Ynys Môn. Oddi yno mae golygfeydd trawiadol dros Afon Menai a mynyddoedd Eryri.

Crëwyd Stad Plas Cadnant ym 1803 gan John Price Ysw, tirfeddiannwr ac Asiant i Ardalydd Môn.

Mae’r tŷ yn gartref Sioraidd digon diymhongar ar gyfer gŵr bonheddig.  Credir ei fod wedi’i adeiladu ar gynllun Gwyddelig ac mae wedi’i restru yn Radd 11.  Mae’n enghraifft berffaith o dŷ gwledig bychan o ddechrau’r 19eg ganrif sydd wedi cadw ei gymeriad gwreiddiol y tu mewn a’r tu allan.  Credir hefyd bod rhai o’r adeiladau allanol yn hŷn na’r prif dŷ.

Cafodd y gerddi hanesyddol sy’n ymestyn dros 10 erw eu hadnewyddu dros y 30 mlynedd ddiwethaf a bellach maent yn atyniad poblogaidd i arddwyr o fri.  Erbyn hyn, fe’i hystyrir ym mysg ugain gardd mwyaf hyfryd Cymru ac mae sôn amdanynt mewn nifer o lyfrau sy’n cynnwys ‘The Finest Gardens of Wales’ gan Tony Russell a ‘Discovering Welsh Gardens’ a ysgrifennwyd gan Stephen Anderton ac sy’n cynnwys ffotograffau Charles Hawes.

Plas Cadnant a’i hanes

Hanes cynnar Cadnant

Ym 1096 sefydlwyd gwersyllfan wrth aber yr Afon Cadnant pan groesodd Iarll Caer a’i filwyr dros Afon Menai at Ynys Môn. Erbyn 1188 roedd yma bentref bychan Canol Oesol yn dwyn yr enw Cadnant. Daeth hwn yn fan cynabyddedig i groesi’r Fenai.

Dros y canrifoedd bu sawl cyrch i geisio goresgyn y genedl Gymreig gan y Saeson a bu sawl ysgarmes ar dir Ynys Môn. Mae nifer y cestyll ar hyd arfordir Gogledd Cymru, gan gynnwys Castell Biwmares a adeiladwyd gan Edward 1 ym 1295, yn dyst i hyn.  Erbyn cyfnod teyrnasiad Edward roedd y gwrthdaro rhwng y ddwy genedl eisoes yn ddwy ganrif oed.  Ym 1096 glaniodd Iarll Normanaidd Caer, Hugh Lupus a’i filwyr ar lan aber yr Afon Cadnant wedi iddynt lwyddo i groesi dyfroedd peryglus Afon Menai o’r tir mawr.  Mae peth olion o’r gwersyllfan a godwyd gan ei filwyr i’w gweld ar lan yr afon hyd heddiw.

Er bod croesi’r Fenai at aber yr afon Cadnant yn daith anodd, dyma’r man mwyaf cul ar hyd y Fenai.  Er y byddai’n rhaid aros gryn saith can mlynedd cyn bod pont ar gael, mae’n sicr bod rhyw fath o wasnaeth fferi cyntefig yn bodoli yn y fan hyn.  Erbyn 1188 sefydlwyd pentref bychan o’r enw Cadnant wrth y man glanio a byddai trigolion y pentref wedi gweld yr Archesgob Balwin o Gaergaint a Gerallt Gymro yn glanio yno i annerch pobl Môn yn rhan o’u hymdrech i recriwtio rhagor i ymuno â’r Trydydd Croesgad i’r Tir Sanctaidd.  Mae cofnod gan Gerallt sy’n dweud bod yr Archesgob wedi annerch ‘holl boblogaeth Môn mewn amffitheatr creigiog yn Llandysilio’.  Yn ôl y disgrifiad hwn fe allai fod yn y man lle mae’r prif faes parcio erbyn heddiw.

Ym 1292 mae Syr Roger de Puleston, Siryf cyntaf Môn, yn cyfeirio yn ei gofnodion at fferi Cadnant fel ‘fferi Esgob Bangor’ neu’r fferi Porthesgob.  Ymddengys bod y fferi wedi bod yn teithio rhwng Cadnant a Biwmares yn ogystal â thua’r tir mawr.  Yn ôl arolwg a wnaed ym 1352 mae cyfeiriad at un o denantiaid Esgob Bangor fel Ithel Borthwis neu Ithel y Fferïwr.

Defnyddiwyd y fan hyn i groesi’r Fenai ym 1646 yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr pan laniodd y Seneddwyr ar lan Afon Cadnant ar eu ffordd i Gastell Biwmares i drechu’r milwyr oedd yn deyrngar i’r Brenin Siarl 1.  Wrth i bentref bychan Cadnant dyfu yn ei faint a’i bwysigrwydd adeiladwyd melinau gwlân a melin ddŵr i falu grawn ar lan yr afon oedd yn llifo’n chwyrn yma.  Roedd hyn yn ddiamau yn rhan o’r chwyldro amaethyddol oedd i droi tiroedd gwastad a ffrwythlon Môn yn ‘fasged fara Cymru’.  Roedd sawl fferm yn yr ardal gan gynnwys un o’r enw Tyddyn Rowlin, oedd ar safle Plas Cadnant heddiw.  Credir i hwn gael ei adeiladu yn y chweched ganrif ar ddeg ac mae wedi goroesi ger y prif dŷ hyd heddiw.

Datblygu’r tŷ a’r gerddi

Ym 1800 mae gwir stori tŷ a gerddi Cadnant yn dechrau. Y flwyddyn honno penodwyd tir feddiannwr lleol o’r enw John Price yn Siryf Môn ac yn asiant i Ardalydd Môn a dechreuodd godi tŷ fyddai’n gweddu i’w statws newydd.

Ganwyd John Price ym Mona Lodge, Amlwch ym mis Hydref 1754 ac ym 1779 roedd wedi priodi ag Elinor Griffith, merch i ffermwr goludog cyfagos.  O ganlyniad, roedd arian ganddo ac roedd yn berchen ar ryw 3,000 erw (1214 ha) o dir.  Golyga hyn ei fod â’r modd i adeiladu cartref gwledig fyddai’n gweddu i ŵr bonheddig fel yntau.  Galwodd ei gartref newydd yn Blas Cadnant.  Pan fu farw John Price yn 1804, daeth ei fab oedd â’r un enw, John, i’r afael â gwaith ei dad tra gofalai ei fam am ei saith brawd a chwaer.  Yn y blynyddoedd nesaf, dechreuodd y mab, John, ar ddatblygu stad wledig cymharol fawr drwy glirio caeau’r ffermwyr-denantiaid a chreu parcdiroedd o amgylch y prif dŷ.  Erbyn cyfrifiad 1828 roedd nifer o adeiladau, tai a bythynnod yn yr ardal yn gartrefi i weithwyr y stad, ac yn eiddo i Blas Cadnant.

Er bod union ddyddiad creu yr ardd fyddai’n gweddu i gartref a stad gŵr bonheddig cefnog rhyw gymaint yn aneglur, credir bod yr ardd ddwy erw sy’n wynebu’r de-ddwyrain a sydd â wal o’i amgylch, ynghyd â’r pwll dŵr petryal yno cyn cyfnod Price.  Efallai eu bod yn rhan o Dyddyn Rowlin, y tŷ fferm gwreiddiol.  Fodd bynnag, yng nghyfnod John y mab byddai wedi bod yn ardd gynhyrchiol yn darparu llysiau a blodau ar gyfer y prif dŷ.  Byddai o leiaf tri thŷ gwydr yno fyddai’n galluogi’r prif arddwr a’i gynorthwywyr dyfu planhigion drwy gydol y flwyddyn ac i feithrin planhigion tyner megis melonau, eirin gwlanog a gwinwydd oedd ag angen eu cysgodi rhag tywydd garw Ynys Môn.

Roedd paratoi bwyd ar gyfer y teulu yn un peth, ond roedd ffasiwn yn datblygu lle’r oedd gofyn i erddi hefyd fod yn fannau pleser yn ogystal â mannau cynhyrchu bwyd.  Cafodd John Price, ddilyn yn ôl troed ei dad gan iddo gael ei urddo’n Siryf Môn ym 1818 a byddai wedi bod yn llwyr gyfarwydd â stad Ardalydd Môn ym Mhlas Newydd.  Roedd yr Ardalydd wedi cyflogi Humphry Repton i ail gynllunio tiroedd Plas Newydd yn null newydd y cyfnod.  Rhan o hyn fyddai gallu gwerthfawrogi tiroedd naturiol gan eu harneisio a thynnu sylw at eu prydferthwch cynhenid er mwyn creu tirlun tebyg i Arcadia.  Ymhen tipyn, roedd Price wedi creu ei baradwys bersonol yn y cwm dan yr ardd gaerog ym Mhlas Cadnant i lawr at ddyfroedd grisial yr Afon Cadnant.

Gosodwyd llwybrau esmwyth oedd yn ymlwybro’n araf i lawr y llethr serth a thrwy’r goedlan.  Ar hyd ymyl y llwybrau hyn plannwyd amrywiaeth o goed, llwyni a phlanhigion er mwyn darparu lliw a phwnc trafod fyddai o ddiddordeb i ymwelwyr.  Roedd nifer o’r coed a’r planhigion hyn yn rhai brodorol ac eraill yn rhai ecsotig o dramor ac a fyddai’n siŵr o dynnu sylw gwerthfawrogol.  Mewn mannau eraill, ail ffurfiwyd y creigiau naturiol a chrëwyd nentydd a rhaeadrau, yr oll i dynnu sylw ar brydferthwch garw’r dirlun.

Dyfodol brith

Erbyn 1826, roedd Cadnant wedi colli’i le fel glanfa fferi bwysig ac wedi sawl marwolaeth yn y teulu Lloyd cafodd y tŷ ei rentu am gyfnodau maith; dirywiodd y stad a daeth cyfnod y teulu Price i ben pan gafodd y tŷ ei werthu mewn ocsiwn ym 1928.

Ym 1826 adeiladwyd pont enwog Thomas Telford nepell o aber yr Afon Cadnant.  Golygai hyn nad oedd rhaid i ymwelwyr â Phlas Cadnant ddibynnu ar y feri i groesi’r Fenai ddim rhagor.  Ym mis Medi 1838 boddwyd William Bulkeley Price, mab ieuengaf John Price yr ieuaf wrth iddo syrthio o sgiff yn y dyfroedd peryglus hyn tra’n pysgota.

Bu farw John Price yr ieuaf ym 1855.  Roedd ei fab hynaf Lloyd John Price wedi marw ym 1851 yn ogystal â’r mab ieuengaf William Bulkeley Price wrth foddi a chan nad oedd etifeddion uniongyrchol erbyn hynny, etifeddwyd y stad gan ei ŵyr hynaf John Bulkely Price.  Gan ei fod ond yn bum mlwydd oed ar y pryd gosodwyd y stad dan warchodaeth ymddiriedolwyr hyd nes iddo ddod i oed ym 1871.  Yn ystod y blynyddoedd hyn rhentwyd Plas Cadnant i denantiaid a gwerthwyd rhai creiriau’r teulu a pheth o ddodrefn y tŷ.

Ar ei ben-blwydd yn 21 dychwelodd John Bulkeley Price i Blas Cadnant gan gymryd ei le fel y sgweier ifanc.  Fe’i derbyniwyd yn ôl â dathliadau mawr, ond ymddengys mai prin oedd yr amser a dreuliodd yma dros y blynyddoedd wedi hyn a rhentwyd y Plas i eraill yn ystod ei amser yn y fyddin.  Yn ddiweddarach dychwelodd John Bulkeley Price, ei fam weddw a’i chwiorydd i fyw ym Mhlas Cadnant.  Wedi ei farwolaeth, ei chwaer Catherine Louisa, oedd yr olaf o’r teulu i fyw ar y stad a bu yno hyd ei marwolaeth ym 1928.

Wedi marwolaeth Catherine ym 1928 rhannwyd y tŷ a’r 900 erw oedd yn weddill yn eitemau llai a’u gwerthu mewn ocsiwn.

Y teulu Fanning-Evans

Yn ocsiwn 1928 disgrifiwyd eitem un fel ‘Y cartref teuluol deniadol sy’n dwyn yr enw Plas Cadnant’ ac fe’i prynwyd, ynghyd â’r gerddi gan yr Uwchgapten Thomas Fanning-Evans a’i wraig Maud ond erbyn 1993 roedd y tŷ a’r gerddi ar werth unwaith eto.

Wedi symud i Blas Cadnant, gwariodd y teulu Fanning-Evans gryn dipyn o arian yn moderneiddio’r tŷ a gosod cwrt tennis newydd sbon yno.  Fodd bynnag, pan oedd gwasanaeth milwrol yn galw ar i’r teulu symud dramor, cafodd Plas Cadnant ei rentu i eraill unwaith eto.

Gwelwyd arwyddion diofalwch ym mhen pellaf y gerddi.  Wedi marwolaeth yr Uwchgapten Thomas Fanning-Evans ym 1944 dychwelodd ei fab Claude a’i weddw Elizabeth yn ôl i Blas Cadnant.  Roedd Elizabeth yn arddwr brwd ac yn gyfnither i’r teulu Tremayne oedd yn berchnogion ar Heligan yng Nghernyw.  Fodd bynnag, roedd absenoldebau ysbeidiol y teulu o Blas Cadnant wedi’r rhyfel a’r diffyg gweision yn ei gwneud hi’n anodd cadw trefn ar ardd mor eang.  Gwnaeth Elizabeth ei gorau drwy weithio mewn cornel o’r ardd gaerog, gan blannu casgliad o lwyni addurnol a phlanhigion ecsotig eraill, rhai sydd wedi goroesi hyd heddiw,ond dechreuodd gweddill yr ardd dirywio’n araf.  Parhaodd y dirywio hyn am dri degawd.

Bu farw Claud Fanning-Evans ym Mhlas Cadnant ym 1989 ac ym 1993 symudodd Elizabeth i gartref cyfagos oedd yn haws ei drin.  Tua diwedd cyfnod Elizabeth ym Mhlas Cadnant cafodd gymorth ond un garddwr am un diwrnod pob wythnos.  Gwerthwyd yr eiddo i ffermwr oedd â’r syniad o sefydlu canolfan farchogol yno.  Lai na thair blynedd yn ddiweddarach, roedd Plas Cadnant ar y farchnad unwaith yn rhagor.

Cyfnod newydd

Roedd gweledigaeth gan y perchennog nesaf a’r gallu i weld heibio’r dadfeilio. Credai y gellid adfer gerddi Plas Cadnant i’r gogoniant a fu, a’r gŵr hwnnw oedd Anthony Tavernor.

Gwelodd Anthony Tavernor Blas Cadnant am y tro cyntaf ym 1996 tra roedd yn ffermio yn Swydd Stafford.  Ar y pryd roedd newydd werthu peth o’i dir ac roedd yn chwilio am fferm arall i’w phrynu.  Gwelodd hysbyseb am Blas Cadnant yn y cylchgrawn Country Life ac er nad oedd ganddo unrhyw gysylltiad ag Ynys Môn na chwaith â Gogledd Cymru, roedd sawl agwedd o’r eiddo yn apelio’n fawr ato.

Ers iddo fod yn ddyn ifanc roedd diddordeb gan Anthony mewn gerddi, hanes a phensaernïaeth.  Cafodd ei swydd dirlunio gyntaf oedd yn cynnwys adeiladu rhaeadr a phyllau dŵr pan oedd ond yn 13 mlwydd oed.  Cyn gadael ysgol, roedd hi’n fwriad ganddo astudio garddwriaeth yn y Gerddi Botaneg Brenhinol yn Kew.  Ond gan ei fod yn fab i ffermwr, teimlai ddyletswydd i ddilyn yn y traddodiad teuluol.  Er hynny, treuliai pob pob munud oedd ganddo yn rhydd o’r fferm yn ymweld â gerddi.

Y daith at adfer

‘Cariad ar yr olwg gyntaf’

Wrth ddarllen y disgrifiad yn Country Life tybiodd Anthony y gallai hyn ddod â’i holl freuddwydion at ei gilydd mewn un lle. Trefnodd ymweld, ag yn ei eiriau ei hun, ‘roedd yn enghraifft glasurol o syrthio mewn cariad ar yr olwg gyntaf’.

Wrth ddarllen y disgrifiad yn Country Life tybiodd Anthony y gallai hyn ddod â’i holl freuddwydion at ei gilydd mewn un lle.  Trefnodd ymweld, ag yn ei eiriau ei hun, ‘roedd yn enghraifft glasurol o syrthio mewn cariad ar yr olwg gyntaf’.

Yn ôl ym 1996 roedd gwedd wahanol iawn ar Blas Cadnant.  Roedd hi’n bosibl byw yn y Plas, neu’r ‘cartref gŵr bonheddig gwledig’, ond roedd angen llawer o waith atgyweirio arno.  Roedd y ffermdy gwreiddiol o’r 16eg ganrif a’r adeiladau eraill yn prysur ddadfeilio ac i goroni’r cyfan, roedd o leiaf ugain coeden onnen yn gwyro drostynt ac ar fin syrthio ar eu pennau!

Roedd hi’n anodd dychmygu y bu gardd oddi mewn i’r waliau.  Roedd coed masarn wedi hadu a thyfu’n wyllt yno.  Roedd y Rhododendron ponticum, y llawr-geirios a’r mieri yno’n rhemp.  Mewn un man roedd olion tri thŷ gwydr wedi mynd â’u pennau iddynt.  Bryd hynny roedd angen torri llwybr â llif gadwyn i’w cyrraedd.  Roedd y wal wedi’i dymchwel mewn sawl lle; y coed wedi syrthio arno, gwreiddiau wedi disodli’r seiliau a’r perchnogion blaenorol wedi creu sawl adwy yn ôl eu mympwy ar y pryd.

Er hyn i gyd, roedd un gornel o’r ardd yn dangos gofal lled ddiweddar.  Roedd yno lwyni nodedig megis y Buddleija alternifolia, Magnolia x soulangeana ac Eucryphia x nymansensis ‘Nymansay’.  Roedd hyn yn arwydd i Anthony bod y pridd yn ffrwythlon ac y byddai’n addas i dyfu amrywiaeth o blanhigion diddorol, anarferol ac addurnol yno.

Y tu hwnt i’r ardd gaerog doedd dim ôl gofal garddwriaethol o gwbl.  Gallai weld wrth edrych ar ffurf y tir bod yr ardd yn ymylu ar glogwyn oedd â chwm coediog oddi tano lle gallai glywed sŵn dŵr yn llifo.  A fyddai nant neu afon fechan yno?  Roedd y llystyfiant yn rhy drwchus i fentro draw i weld.

Er yr holl waith adfer y byddai ei angen, roedd Anthony eisoes wedi syrthio mewn cariad â’r lle ac erbyn mis Chwefror 1996 roedd wedi prynu Plas Cadnant gan symud i’r tŷ fis Mai y flwyddyn honno.

Adfer yr adeiladau a’r ardd gaerog

Sylweddolodd Anthony nad oedd ganddo gynllun perffaith i adnewyddu’r lle ac yn wir, anodd oedd penderfynu sut oedd dechrau ar adfer eiddo mor fawr ac amrywiol. Roedd ei galon yn dweud wrtho mai’r ardd ddylai gael blaenoriaeth tra roedd ei synnwyr yn ei dynnu tuag at atgyweirio’r adeiladau. Mewn gwirionedd, gwnaethpwyd y ddau.

Tra roedd yn disgwyl am ganiatâd cynllunio i adfer y porthdy a bod y trefniadau ar gyfer yr adeiladau eraill ar y gweill, dechreuodd Anthony ar glirio’r ardd gaerog, ddwy erw o faint, yn ofalus gan archwilio hen fapiau Ordnans i weld beth fyddai wedi bod yno yn y gorffennol.  Gwelodd lle bu’r llwybrau gwreiddiol a gwnaeth ei orau i’w hailosod yn yr un man.  Yna penderfynwyd oedd mai ond un o’r tri thŷ gwydr gwreiddiol oedd yn bosibl ei ailadeiladu, a hwn oedd y lleiaf o’r tri.  Wedi ymchwil trylwyr, gwelwyd y bu man cynnar i dyfu pîn-afalau a than y gwelyau uchel dadorchuddiwyd rhai o’r pibellau gwreiddiol a ddefnyddid i gynhesu’r pridd.  Ar un ochr i’r adeilad roedd hambwrdd anweddiad o gyfnod Fictoria.  Y drefn oedd llenwi’r hambwrdd â dŵr i gynyddu’r lleithder yn yr awyr oedd yna’n gymorth i ddifa plâu.

Yn ôl y gwaith ymchwil, prif bwrpas yr ardd gaerog oedd tyfu llysiau a ffrwythau ac i ddarparu blodau i harddu’r tŷ.  Byddai angen llu o arddwyr i ddychwelyd at y fath gynhyrchiant heddiw, a byddai hyn yn waith costus iawn.  Penderfyniad Anthony, felly, oedd ei datblygu’n ardd bleserus mewn dull syml heb fod yn rhy uchelgeisiol.  I gyflawni’r ddelfryd hon defnyddiwyd syniad y mudiad Celfyddyd a Chrefft o drefnu manwl ond drwy hefyd ddwyn mewn cof plannu’r cyfnodau blaenorol.  Gwelir hyn heddiw wrth syllu ar y coed ffrwythau sydd newydd eu plannu a’r modd yr ail grëwyd yr ardd gegin fechan.

Erbyn y flwyddyn 2000 roedd atgyweirio’r ffermdy gwreiddiol a’r tai allan wedi’i orffen a phenderfyniad Anthony oedd eu gosod yn llety gwyliau hunanarlwyo.  Bu hyn yn benderfyniad doeth gan iddynt ddod yn boblogaidd iawn gyda’r ymwelwyr hynny oedd am dreulio gwyliau ar Ynys Môn ac aros mewn lleoliad arbennig.  Erbyn heddiw, maent yn ffynhonnell incwm bwysig sy’n cyfrannu at gynnal a chadw’r gerddi’n feunyddiol.  Ffaith bwysig i’w dwyn mewn cof yw bod yr holl waith sydd wedi’i wneud ym Mhlas Cadnant, hyd yn hyn, wedi’i ariannu bron yn llwyr gan Anthony Tavernor.  Bu hyn wir yn llafur cariad gan un a oedd unwaith yn ffermwr yn Swydd Stafford.

Wedi iddo gwblhau’r gwaith ar ailgodi’r adeiladau, roedd rhagor o amser gan Anthony i feddwl am yr ardd ac mae’r gwaith yno wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.  Oddi mewn i’r ardd gaerog mae lawntiau wedi’u gosod, sawl coeden ywen ar ffurf pyramid wedi’u plannu a’u tocio’n rheolaidd i gadw’u siâp, y pwll dŵr petryal wedi’i adfer, gwrychoedd wedi’u plannu, a borderi dwbl o flodau wedi’u plannu yn erbyn wal y dwyrain.  Efallai mai’r datblygiad mwyaf dramatig yw sefydlu’r teras gorllewinol a’r gyfres o erddi oddi tano.  Mae hyn wedi lleihau’r llethr serth blaenorol ar yr ochr hon i’r ardd gaerog ac yn awr gellir gweld amrywiaeth o blanhigion sy’n dwyn lliw a diddordeb i’r rhan honno o’r ardd o ddechrau’r gwanwyn hyd at ddiwedd hydref.

Drwy ragor o waith ymchwil gwelwyd bod cornel de-ddwyrain yr ardd gaerog (lle gwelodd Anthony gyntaf oll bod y tir wedi cael ei drin yn weddol ddiweddar) wedi cael gofal hyd at ddiwedd y 1980au gan y perchennog blaenorol Mrs Elizabeth Fanning-Evans.  Mae gwaith Anthony yn y llecyn hwn yn cydfynd ag ymdrechion Mrs Fanning-Evans ac wedi’i seilio ar ei syniadau hi.  Cafodd Anthony gymorth y diweddar fotanegydd, Philip Brown, wrth iddo benderfynu pa blanhigion fyddai orau i’w plannu yn y gerddi hyn.

Adnewyddu Gardd y Cwm

Yn ddiweddar, mae canolbwynt yr adnewyddu wedi bod ar y ‘cwm cudd’ sydd o dan yr ardd gaerog. Gan na ellid mentro i’r cwm hwn am ddegawdau, datgelodd ymchwil Anthony nad cwm coediog arferol Ynys Môn oedd hwn.

Roedd y cwm dan y tŷ wedi’i restru fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd y doreth o redyn, mwsogl a’r cennau prin ac anarferol, a bod poblogaeth o wiwerod coch yn trigo yno.  Roedd y goedwig drwchus o lawr-geirios y cuddio’r ffaith y bu unwaith yn ardd goediog wedi’i chynllunio mewn arddull oedd yn boblogaidd ar y pryd ac a hybwyd yn arw gan Humphry Repton a’i debyg oedd wedi gweithio ar diroedd Plas Newydd cyfagos yn nechrau y 19eg ganrif.  Nod y weledigaeth hon oedd cwmpasu prydferthwch naturiol y dirlun drwy yr un pryd ‘ei wella mewn dull esthetig ar gyfer llygaid y gwylwyr’.  Gwnaethpwyd hyn drwy ychwanegu nodweddion dramatig ym Mhlas Cadnant oedd yn cynnwys llwybrau troellog, stepiau esmwyth drwy’r dirwedd, golygfeydd dramatig, llwyfannau gwylio, rhaeadrau a phyllau dŵr.

Wrth fentro i lawr yn betrus, a’i lif gadwyn yn ei law, sylweddolodd Anthony fod nifer o’r nodweddion gwreiddiol wedi goroesi.  Cam wrth gam dros y blynyddoedd mae rhagor o’r nodweddion hyn wedi’u hail ddarganfod a phan oedd rhai ohonynt y tu hwnt i gael eu hadfer neu wedi diflannu’n llwyr, nid yn unig mae Anthony wedi’u hail-greu ond mae hefyd wedi ehangu ei weledigaeth i fannau cyfagos gyda’i gysyniadau ei hun o’r cynlluniau gwreiddiol.

Difrod enbyd Ddydd Gŵyl San Steffan

Ar Ddydd Gŵyl San Steffan 2012, wedi wythnosau o law trwm a phan oedd Storm Eva ar ei hanterth, disgynnodd bron bedair modfedd o law ar dir oedd eisoes yn orlawn o ddŵr. Llifodd y dŵr i’r Ardd Gaerog gan drechu pob allanfa ddŵr oedd yno. Byddai angen gwaith mawr i adfer yr ardd.

Roedd y waliau cerrig oedd dros 200 mlynedd oed yn gweithredu fel argae a llenwodd yr ardd â dŵr hyd nes i’r wal isod ffrwydro gan greu tsunami o ddŵr a cherrig wrth ruthro drwy Ardd y Cwm at yr afon gan sgwrio popeth o’i flaen hyd at y creigiau gwaelodol.  Diolch i’r Drefn, chafodd neb anffawd ac nid amharwyd dim ar yr adeiladau.  Y llwybrau troed, waliau, pontydd a’r maes parcio a ddifrodwyd fwyaf.  Glaniodd sedd bren addurnedig a gomisiynwyd yn arbennig a dau obelisg carreg yn nŵr yr Afon Cadnant islaw.

Distrywiwyd y mannau rhwng yr ardd gaerog a’r rhaeadrau oedd wedi’u tirlunio yn llwyr.  Yn ffodus, dim ond rhan fechan o’r ardd a blannwyd oedd wedi dioddef a bu’n bosibl achub nifer helaeth o’r planhigion o’r mannau hynny a effeithiwyd fwyaf.

Llwyddwyd i adfer rhan helaeth o’r ardd erbyn y dyddiad agor ym mis Ebrill 2016, a gosodwyd llwybrau dros dro yng Ngardd y Cwm er mwyn diogelu’r ymwelwyr.  Gofynnwyd i beiriannydd adeiladu gynllunio wal gynhaliol newydd.  Mae hwn yn rhan hanfodol o’r pwll dŵr gerllaw a byddai gofyn iddo fod yn ddigon cryf i wrthsefyll unrhyw lifogydd yn y dyfodol.  Gosodwyd sawl agen newydd yn y wal er mwyn i ddŵr allu llifo allan pan fo rhaid.  Roedd ailadeiladu’r wal yn sialens ymarferol gan na ellid gyrru peiriannau mawrion drwy’r drws cul ac ar hyd y llwybrau culion.  Hefyd gan ei bod yn ardd hanesyddol, rhaid oedd i’r gwaith fynd rhagddo mewn ffordd oedd yn gofalu am gymeriad a hanes y safle.

Cwblhawyd yr ailadeiladu a gostiodd dros £250,000, gyda’r yswiriwr NFU Mutual yn ysgwyddo rhan fwyaf y gost, yn gynnar yn 2017.  Cynhaliwyd dathliad arbennig ar ddechrau’r tymor i ddweud diolch wrth yr holl bobl oedd wedi cefnogi’r gerddi yn ystod cyfnod yr adnewyddu.

Y dyfodol

Y cynllun yn y pendraw i Blas Cadnant fydd sicrhau bod y gerddi yn gynaliadwy fel y gall cenedlaethau’r dyfodol ymweld a gwerthfawrogi gogoniant unigryw y Gerddi Cudd, a sicrhau na fyddant yn mynd ar ddifancoll byth eto.

Mae llwyth o waith o hyd i’w wneud ym Mhlas Cadnant ac mae Anthony ei hun am gwblhau llawer mwy.  Wrth grwydro’r tiroedd a’r gerddi ym Mhlas Cadnant cewch eich synnu sut y llwyddodd un dyn, gyda chyn lleied o help, gyflawni cymaint mewn byr amser.  Llwyddiant pennaf Anthony, efallai, yw ei fod wedi gwneud y gwaith hwn oll heb golli’r ymdeimlad mai gardd bersonol a phreifat sydd yma.  Mae hyn mor wahanol i gymaint o’r projectau adnewyddu gerddi sydd wedi’u cwblhau yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf.

Ymweliad Brenhinol

Ym mis Gorffennaf 2017, cafodd y gerddi y fraint o groesawu’r Brenin Charles, oedd bryd hynny yn Dywysog Cymru.

Cafodd y brenin, sy’n enwog am ei ofal dros natur, yn ffawna a fflora, ei hebrwng ar daith o amgylch yr ardd gan gyfarfod ag aelodau allweddol y staff a chyfranwyr eraill.

Plannodd goeden Acer ‘Seiryu’ yn lle un debyg a gollwyd yn y llifogydd cyn ymuno â’r gwesteion am de prynhawn y Plas.

Plas Cadnant heddiw

Nid yw Plas Cadnant yn debyg i’r hyn a ddisgwylir o stad wledig breifat.

Mae’n fan tangnefeddus i ymlacio ynddo gydag awyrgylch gynnes, gyfeillgar, lle gallwch orffwyso a chymuno unwaith yn rhagor â’r natur sydd o’ch cwmpas.

Y Bythynnod

Ar y stad mae pum bwthyn hunanarlwyo unigryw, o fewn 10 erw o erddi gogoneddus sydd hefyd â 200 erw o barcdir hyfryd o’u cwmpas.

Yn y bythynnod hyn cewch osgoi hwrli bwrli bywyd pob dydd, a hynny ond tafliad carreg o siopau lleol ac atyniadau i ymwelwyr.  Mae pedwar o’r bythynnod y tu ôl i’r Plas ger yr Ardd Gaerog.  Credir bod y bythynnod gwreiddiol yno cyn adeiladu’r Plas ac y cawsant eu defnyddio fel adeiladau allanol yn ystod cyfnod y teulu Price.  Porthdy ger y brif fynedfa yw’r bwthyn arall a oedd am gyfnod yn gartref i brif arddwyr y stad.

Y parcdiroedd

Defnyddir rhan o’r parcdiroedd yn faes parcio ar gyfer ymwelwyr yn ystod y dyddiau agored.

Uwchraddiwyd y man hwn gyda dull o amddiffyn ac atgyfnerthu’r tir drwy osod matiau plastig a ailgylchwyd ar y mannau lle byd y cyhoedd yn cerdded ac yn gyrru eu ceir a hynny heb amharu dim ar olwg y parcdiroedd.

Cwm Cadnant, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Mae’r Cwm yn ddyffryn coediog dwys, ac yn gynefin arbennig ac yn gartref i sawl rhywogaeth o blanhigion cynhenid prin yn ogystal â bywyd gwyllt.

Caiff y Cwm ei warchod gan ei fod yn un o’r ychydig goedlannau sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig drwy’r wlad.  Mae Plas Cadnant a Chyfoeth Naturiol Cymry yn cydweithio i gael gwared â llwyni ymledol nad sy’n gynhenid i Gymru, rhai fel llwyni llawryf, er mwyn diogelu’r goedlan hanesyddol lled naturiol, a gwarchod y coed derw a’r coed ynn sy’n tyfu ar lan yr Afon Cadnant a’i raeadrau.

Mae ‘Llannerch Clychau’r Gog’ yn rhan o’r Safle ac yn llawn clychau’r gog o fath sy’n gynhenid i Gymru a blodau’r gwynt yn y gwanwyn.  Mae presenoldeb y rhain yn arwydd o goedlan hynafol sy’n gwarchod rhedyn a mwsogl dan ei chysgod.  Mae’r ecosystem ffrwythlon a’i enwebiad fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn ddibynnol ar y ffaith bod hen hanes i’r goedlan a bod awyrgylch laith yn y ceunant.  Mae gallu ymweld â Llannerch Clychau’r Gog yn y gwanwyn yn bleser i’r synhwyrau oll.

Gwiwerod Coch Plas Cadnant

Mae Plas Cadnant yn gweithio ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru sy’n darparu nythfeydd mewn mannau tawel fel y gall wiwerod coch fagu eu rhai bach mewn heddwch.

Mae gwiwerod coch yn rhywogaeth gynhenid i’r wlad hon ac mae dan fygythiad dybryd gan y gwiwerod llwyd sy’n anifeiliaid mwy ac sy’n cario clefydau heintus.  Bellach, mae gwiwerod coch yn goroesi mewn mannau anghysbell megis Ynys Môn, Northumberland a’r Alban, diolch i’r gofal a’r rheolaeth fanwl a roir i’r ddwy rywogaeth.

Gellir dirnad o’r project Gwiwerod Coch Môn sut y gall partneriaeth gymunedol gref, cadwraeth gofalus ac addysg, drawsnewid dyfodol gwiwerod coch.  Roedd tua 40 gwiwer ym Môn yn 1997; erbyn heddiw mae 400-500; nifer mwyaf mewn unrhyw fan yng Nghymru.  Mae ein coedlannau sydd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn cyfrannu at y twf hwn drwy ddarparu amgylchedd perffaith i godi teuluoedd.

Yma ym Mhlas Cadnant rydym yn plannu planhigion sy’n fwyd i wiwerod coch, ac yn gosod hadau blodau’r haul, darnau o afal, moron a’r calsiwm sydd mewn ystifflogod i fannau bwydo yma ac acw yn y goedlan er mwyn ychwanegu at eu bwyd gwyllt.

Tirwedd Ddaearegol Plas Cadnant

Mae tirwedd Plas Cadnant yn ymestyn yn ôl 550 miliwn o flynyddoedd ac mae’n rhan o arfordir Geoparc Ynys Môn sy’n wedi derbyn cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO).

Yn ystod yr Oes Iâ olaf (25,000 at 12,000 mlynedd yn ôl) ffurfiwyd tri chwm Plas Cadnant gan haen iâ cilometr o drwch a sianeli dŵr tawdd o’r graig waelodol.  Wrth i’r iâ feirioli cododd lefel y môr gan ffurfio Afon Menai.

Mae tystiolaeth bod lafa wedi gwthio ei hun drwy grwst y ddaear ac yna oeri gan ffurfio yr hyn a elwir yn ddeiciau o ddolerit, craig grisialaidd dywyll, tua 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac sydd i’w gweld ger y ceunant.  Sonnir am ddeic Plas Cadnant yn yr arolwg daearegol systematig gyntaf o Ynys Môn a wnaethpwyd ym 1822 gan y daearegwr arloesol, John Stevens Henslow.  Dros amser, mae dolerit yn newid gan ffurfio’r maen lled-werthfawr, iasbis, a welir yn Afon Cadnant ac oedd yn ffasiynol mewn gemwaith yn oes y Frenhines Fictoria.

Dan yr ardd gorwedd sgist gwyrdd cyn Gambriaidd sy’n 550 miliwn o flynyddoedd oed ac a ffurfiwyd drwy weithrediad folcanig.  Mae’r amrywiaeth hyn yn naeareg yr ynys yn egluro’r amrywiaeth o briddoedd sydd ar y Stad ac sy’n meithrin yr holl blanhigion gwahanol.

Codi Arian / Cymorth i’r Gymuned Leol

Mae perthynas agos rhwng Plas Cadnant a Chymdeithas Ddinesig Bro Porthaethwy.

Bwriad y Gymdeithas yw gwarchod ein mannau gwyrddion, amddiffyn ein hardal Gadwraeth a hybu safonau uchel o gynllunio, dylunio a’n bywyd dinesig.

Mae’r Gymdeithas wedi cynnal ei garddwest codi arian ym Mhlas Cadnant ers 2016.  Mae wedi cynnal digwyddiadau codi arian ar gyfer uned ganser yr ysbyty lleol a nifer o elusennau lleol.  Pob blwyddyn cynhelir yma ddiwrnod agored y Cynllun Gerddi Cenedlaethol gan gyflwyno’r holl gostau mynediad i elusennau teilwng.

Cyrsiau Addysg a Hyfforddiant

Ar y cyd â Chymdeithas Fferm a Gardd y Menywod, cynhelir dyddiau hyfforddi ar agweddau megis tocio coed a llwyni a defnyddio polion gardd.

Cynhelir teithiau wythnosol dan arweiniad arbenigwyr a digwyddiadau eraill sy’n egluro gwahanol agweddau o Blas Cadnant.  Bydd y rhain yn cynnwys teithiau gwiwerod coch, teithiau garddwrol, teithiau bywyd gwyllt, dyddiau cyfarfod â gwenynwyr, teithiau daearegol, teithiau i arlunwyr, ac arddangosfeydd nyddu a gwehyddu.

Mae mynediad i Erddi Cudd Plas Cadnant yn rhad ac am ddim i aelodau Tai Hanesyddol.

Ewch at erddi cudd plas cadnant ar wefan y DU

Llwyddiannau a Gwobrau

Gwobr Millennium Marque am Ragoriaeth Amgylcheddol

Gwobr Gardd Wledig Country Life 2009 – Rhestr Fer

Gwobrau Twristiaeth Cymru am Lety Hunanarlwyo 2013 – Enillydd

Gwobr Rhagoriaeth mewn Dylunio Dinesig gan Gymdeithas Ddinesig Bro Porthaethwy 2013

Gwobr Cyngor Diogelu Cymru Wledig am ofal o’r amgylchedd lleol

Ymweld â Gemau Cudd Cymru 2016

Ymweld â Gemau Cudd Cymru 2017

Ymweld â Chaffi Safonol Cymru 2017

Ymweld â Gemau Cudd Cymru 2018

Ymweld â Chaffi Safonol Cymru 2018

Gardd y Flwyddyn HH 2019 – Rhestr Fer

Tystysgrif Ragoriaeth Trip Advisor 2015 – 2019

Gwobr Ddethol Teithwyr  Trip Advisor 2020 – 2023

‘Hoff Ardd y Genedl’ English Garden 2023 – enillydd categori Gerddi Cyhoeddus

 

Ymunwch â Thai Hanesyddol

Dewch i ddysgu am ein treftadaeth am ond £68 y flwyddyn.

Mae cannoedd o dai, cestyll a gerddi gogoneddus dros Gymru gyfan a gweddill y DU yn cynnig mynediad am ddim i’n haelodau.

Hefyd: cewch derbyn ein cylchgrawn chwarterol, mwynhau ein darlithoedd misol ar lein, cael gwahoddiad cyfyngedig i brynu tocynnau am deithiau tu-hwnt-i’r-llen a manteisio ar ddewis eang o gynigion arbennig am wyliau, llyfrau a nwyddau eraill fydd at eich dant.