Hanes Plas Dinam
Roedd Eldrydd a’i theulu yn byw yn Awstralia pan wnaeth hi’r penderfyniad i symud yn ôl i Gymru yn 2011 a dychwelyd i Blas Dinam, ei chartref teuluol.
Disgrifir Plas Dinam fel ‘enghraifft, mewn cyflwr da, sydd ag arwyddocâd cenedlaethol o arddull yr Adfywiad Domestig neu’r ‘Old English’ oedd yn ffasiynol yng nghanol diwedd y cyfnod Fictoraidd. Mae yno waith crefftus â defnyddiau traddodiadol sy’n gyfuniad perffaith i’r llygad. Cafodd y plasty ei gynllunio a’i adeiladu ym 1873-4 ar safle a adnabuwyd cynt fel Penybryn gan y pensaer William Eden Nesfield (1835-1888)’. www.coflein.gov.uk/en/site/29811
Mae gerddi Plas Dinam yn ymestyn dros ryw 13 erw ac maent yn nodedig am eu coed hynafol, y wellingtonia, y coed tiwlip a’r coed derw. Mae’r lawntydd eang oedd o flaen y tŷ bellach yn feysydd blodau gwylltion. Mae’r golygfeydd o’r tŷ yn ymestyn dros y meysydd at barcdiroedd sydd mewn dyffryn coediog gerllaw.
Dyma adeilad oedd unwaith yn gartref i ddiwydiannwr enwog ac sydd bellach â dyfodol cynaliadwy fel lleoliad llwyddiannus i briodasau sydd hefyd yn llwyddo i gadw naws cartref teuluol annwyl.
O 1872 hyd heddiw
Yr hanes cynnar
Y perchennog cyntaf i fyw yn y tŷ oedd David Davies, Llandinam, oedd o dras werinol ac a ddaeth yn un o ddiwydianwyr amlycaf ei oes.
Adeiladwyd Plas Dinam ym 1872-73 ar gyfer Capten Offley Crewe-Read, oedd yn is raglaw y sir ac yn Ynad Heddwch. Roedd yn un o ddisgynyddion y teulu Crewe hynafol o Sir Fflint a Sir Gaer. Ni chafodd ei deulu fyw yno gan iddynt werthu’r adeilad ym 1884 ar ôl dioddef trafferthion ariannol.
Prynwyd Plas Dinam ym 1884 gan David Davies, Llandinam. Er ei fod yn hanu o deulu gwerinol oedd yn ffermwyr-denantiaid i deulu’r Crewe-Reads, aeth David Davies ymlaen i gasglu cryn ffortiwn yn y chwyldro diwydiannol yng Nghymru. Adeiladodd sawl rheilffordd cyn ailgyfeirio at y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda, a hefyd adeiladu dociau’r Barri a ddatblygodd yn un o borthladdoedd prysuraf y byd bryd hynny.
Roedd David Davies wedi adeiladu Broneirion yn blasty iddo’i ym 1884 hun ar ochr arall y dyffryn i Blas Dinam. Yna prynodd Blas Dinam yn gartref i’w unig fab Edward, ei wraig a’u tri phlentyn, David, Gwendoline a Margaret. Bu farw Edward yn 48 mlwydd oed ym 1898 wedi iddo ddioddef o ddiffyg cwsg, ac efallai’r pwysau a ddaeth drwy etifeddu’r fath fusnesau mawrion a chyfoeth ei deulu.
1900 at yr Ail Ryfel Byd
Hwn oedd cartref yr Arglwydd Davies a’i ddwy chwaer Gwendoline a Margaret, sy’n enwog yng Nghymru am eu haelioni i fyd gwleidyddiaeth, celfyddyd a dyngarwch.
Dilynodd David Davies yr ŵyr yn ôl traed gwleidyddol ei daid. O 1906 hyd at 1929 bu’n Aelod Seneddol dros y Rhyddfrydwyr yn Sir Drefaldwyn. Ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ddiweddarach bu’n gefnogwr brwd o Gynghrair y Cenhedloedd. Ym 1932 sefydlodd Cymdeithas y Gymanwlad Newydd er ‘hyrwyddo cyfraith a threfn ryngwladol’. Ysgrifennodd nifer o lyfrau ar yr hawl i ddefnyddio grym, yn benodol The Problem of the Twentieth Centuary (1930). Gwnaeth waith da mewn sawl cyfeiriad gan gynnwys sefydlu hostelau i’r rhai oedd yn dioddef o’r ddarfodedigaeth a ddaeth yn gymorth i gael gwared â’r afiechyd difrifol hwn. Adeiladodd y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Ym 1932 fe’i hurddwyd yn Arglwydd Davies yn gydnabyddiaeth i’w gyfraniad at gymdeithas.
Mae dwy chwaer David, Gwendoline a Margaret yn adnabyddus am eu casgliad niferus o weithiau cynnar y Realwyr, yr Argraffiadwyr, a’r Ôl-Argraffiadwyr Ffrengig a gymynroddwyd ganddynt i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd ym 1952 a 1963. Eu cartref hwy oedd Plas Gregynog (aelod arall o Dai Hanesyddol). Mae eu casgliad o waith celf yn cynnwys peintiadau gan Renoir, Monet, Manet, Van Gogh a Cézanne a cherfluniau gan Rodin, Degas ac eraill. Mae’r Casgliad y Chwiorydd Davies yn dystiolaeth nodedig o’u gwerthfawrogiad arloesol mewn gwaith celf, nid yn unig am eu bod yn ferched oedd yn casglu’r fath weithiau ond hefyd am eu bod yn cefnogi gwaith artistiaid mewn arddull oedd ar y pryd gan fwyaf wedi’i ddiystyru.
Ym 1910 priododd David ei wraig gyntaf Amy Penman a ganwyd dau blentyn iddynt David Michael Davies (a elwid yn Mike) a Marguerite Elizabeth. Priododd Mike â Ruth Eldrydd Dugdale a chawsant ddau fab. Daeth Mike yn Arglwydd Davies ar farwolaeth ei dad.
Am gyfnod byr wedi’r ail ryfel byd, adleoliwyd Ysgol Gordonstoun o’r Alban i Blas Dinam er diogelwch y disgyblion. Defnyddiwyd y tŷ hefyd yn Goleg Amaethyddol am gyfnod wedi’r rhyfel.
Yn ôl yn gartref i’r teulu
Wedi iddi hi golli ei gŵr ym 1944, cymerodd y Fonesig Eldrydd Davies y cam mawr o ddychwelyd i’r cartref teuluol oedd wedi’i ddefnyddio gan Ysgol Gordonstoun yn ystod y rhyfel.
I bob diben, etifeddwyd y tŷ gan y Fonesig (Eldrydd) Davies pan laddwyd ei gŵr Mike yn ymladd yn yr Iseldiroedd ym 1944. Bu ei thad-yng-nghyfraith farw’n gynharach yr un flwyddyn. Tra ei bod hi’n magu ei dau fab ar ei phen ei hun yn Llwynderw yn y pentref cymerodd hi’r cam mawr o ddychwelyd yn ôl i Blas Dinam ym 1956 gyda’i meibion, David a Jonathan.
Roedd David wedi olynu’i dad fel y trydydd Arglwydd Davies prin ddyddiau cyn ei ben-blwydd yn bedair oed ac wedi marwolaeth ei fam yn 1966 aeth i fyw i Blas Dinam. Priododd Bea yn 1972 a magwyd eu pedwar plentyn, Eldrydd, Daniel, Lucy a Ben ym Mhlas Dinam.
Yn 2001 difrodwyd llawr uchaf y tŷ gan dân erchyll, a thros gyfnod o ddwy flynedd ailadeiladwyd rhannau o’r to a’r adeilad ac ailaddurnwyd llawer o’r tŷ.
Plas Dinam yn fan gwyliau
Aeth yr Arglwydd a’r Fonesig Davies i fyw mewn cartref llai ac yna fe benderfynodd Eldrydd, ei gŵr Tyson a’u teulu ifanc symud o Awstralia i gartref y teulu Davies a chychwyn busnes yno.
Yn 2011 penderfynodd yr Arglwydd a’r Fonesig Davies cyfredol symud o Blas Dinam a mynd i fyw i gartref llai. Daeth Eldrydd a’i theulu yn ôl o Awstralia er mwyn rhedeg Plas Dinam fel busnes. Roedd y gwyliau cyntaf yno wedi’i drefnu ond ychydig ddyddiau wedi iddynt gyrraedd yn ôl ym mis Mehefin 2012.
Gan fyw mewn rhan o’r tŷ yn unig, bu Eldrydd a Tyson yn gosod Plas Dinam yn fan gwyliau. Y gwelliant cyntaf wnaethon nhw oedd adnewyddu ‘fflat’ ar lawr cyntaf un asgell y tŷ iddyn nhw gael byw ynddo. Wedi cyfnod byr, newidiwyd yr ystafelloedd hyn yn ôl i fod yn ystafelloedd gwely ac ystafelloedd ymolchi. Wedi iddynt dderbyn caniatâd cynllunio gan CADW, addaswyd ystafelloedd gwely eraill yn ystafelloedd ymolchi gan gynyddu nifer yr ystafelloedd ymolchi oedd yn y tŷ o 5 i 10.
Daeth rhagor o welliannau yn sgil hyn oll, gan gynnwys addurno’r ystafelloedd, gosod dodrefn newydd yno a sefydlu amgueddfa fechan. Gwelliant allweddol yn 2013 oedd cael gwared â’r boeler nwy a gosod boeler bio-màs yn ei le. Mae’r boeler newydd hwn yn llosgi naddion pren o’r stad leol. Daeth Tyson o hyd i hen bopty bara dan do ger y drws cefn. Cafodd y syniad gwych o’i ddefnyddio yn bopty pizza a bu hyn yn llwyddiant mawr. Mae llawer o’r gwesteion yn mwynhau eu hunain wrth greu a bwyta pizzas blasus tu hwnt o’r popty coed hwn!
Plas Dinam, y lleoliad priodasau
Wedi iddynt dderbyn trwydded i gynnal priodasau, cynhaliwyd y rhai cyntaf mewn pabell fawr ar y lawnt hyd nes i’r stablau gael eu haddasu a chegin a thoiledau newydd eu hychwanegu.
Derbyniwyd trwydded i gynnal priodasau yn 2013 a bu’r nifer fach o briodasau a fu yno bob blwyddyn yn gymorth i’r busnes gwyliau. Y drefn arferol oedd llogi pebyll mawr neu dipis ar y lawnt eang ar gyfer cynnal y neithior. Gwelodd Eldrydd a Tyson bod cyfle i ddefnyddio ardal y stablau oedd â tho gwydr iddo yn hytrach na phabell y tu allan ac yn 2014-15 dechreuwyd ar y gwelliannau i wireddu hyn. Cynhaliwyd y briodas Stablau gyntaf ym mis Awst 2015 ac roedd yn llwyddiant ysgubol! Wedi hyn, cynyddodd nifer y priodasau’n gyflym. Ychwanegwyd cyfleusterau eraill megis toiledau a chegin arlwyo yn 2017, gyda chwmni saethu yn defnyddio’r Stablau ar gyfer lluniaeth yn ystod y tymor saethu.
Yn 2017 dechreuodd Tyson ar adnewyddu’r Porthdy er mwyn gallu darparu rhagor o le i’r gwesteion priodas. Y project nesaf oedd addasu Llofft y Chauffeurs uwchben y Stablau, lle’roedd holl ffeiliau’r stad, y cyfrifon a’r llythyrau o 1900 hyd at 1956 wedi eu cadw. Buan y sylweddolodd Eldrydd a Tyson bod archifo’r holl ffeiliau yn ormod o dasg iddyn nhw, felly gyflwynwyd y rhain i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ( a adeiladwyd, gyda llaw, gan Edward Davies) i’w harchifo. Yno y maent ynghyd ag archifau y ddau David Davies. Codwyd trawstiau a nenfydau isel y Llofft ac o ganlyniad roedd yr holl le i’w weld yn llawer mwy! Newidiodd Tyson y lle gan greu cegin, dwy ystafell gysgu a dwy ystafell ymolchi a gorffennwyd y gwaith yn gynnar yn 2020.
Hyd at heddiw
Wrth i nifer y priodasau gynyddu, rhaid oedd cyflogi rhagor o staff a gwneud gwelliannau parhaus i’r cartref teuluol annwyl hwn sydd bellach hefyd yn enwog fel lleoliad priodasau.
Bu cynnydd mawr yn nifer y priodasau ac yn 2020 penodwyd rheolwr priodasau i ymuno â’r tîm trefnu. Gosodwyd do gwydr clir newydd nad oedd yn gollwng dŵr uwchben y stablau. Yna bu rhaid wynebu’r pandemig ac fe ddiddymwyd neu ohirio pob priodas y flwyddyn honno. Yr unig incwm bryd hynny oedd yr hyn a gafwyd drwy osod y Porthdy a’r Llofft i ymwelwyr!
Tebyg oedd hi hefyd ar ddechrau 2021, ond o’r diwedd, o fis Mehefin 2021 ymlaen gellid cynnal priodasau unwaith yn rhagor. Wedi iddynt brynu pabell fawr ymestynnol roedd yn bosibl cynnal seremonïau yn yr awyr agored yno ac yn y Stablau hefyd. Roedd y busnes yn ôl er ei draed er bod symud ymlaen o gyflwr segur am 20 mis i gyfnod o waith prysur yn dipyn o her.
Gan fod nifer y priodasau wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn ers hynny, mae nifer y gwelliannau wedi cynyddu hefyd, yn ogystal â maint y tîm trefnu.
Ethos Plas Dinam
Mae Plas Dinam yn annwyl iawn i ni ac fel perchnogion y pumed genhedlaeth ein dyletswydd ni yw gwarchod y tŷ anhygoel hwn yn yr ardal brydferth a thawel hon o Gymru. Bu’r tŷ gwledig hanesyddol hwn yn llechu yn y rhan arbennig hon o ddyffryn afon Hafren ers 1873. Rydym yn ymdrechu’n galed i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd er sicrhau y bydd y cartref croesawgar hwn a’r dirwedd hyfryd o’i gwmpas ar gael i genedlaethau’r dyfodol eu gwerthfawrogi a’u mwynhau. Rydym yn rhannu’r wefr wrth i chi a’ch gwesteion ddod ar draws y llecyn arbennig hwn a dangos i ni eich llwyr werthfawrogiad ohono. Mae mynyddoedd gwyllt Cymru, y coed hynafol, y blodau a’r bywyd gwyllt oll yn aros i chi eu gwerthfawrogi a’u mwynhau.
Cynaladwyedd
Mae Eldrydd a Tyson yn danbaid frwd o gael Plas Dinam mor gynaliadwy â phosibl, gyda’r nod o ennill tystysgrif B corp.
Cynhesir Plas Dinam gan foeler bio-màs sy’n llosgi naddion pren o stad Dinam. Cesglir y pren o fewn milltir neu ddwy i Blas Dinam ac wedi iddo sychu am ddau dymor fe’i cedwir mewn storfa wrth ochr y boeler. Caiff y coed eu rheoli’n ofalus a’u hail blannu. Mae’r broses felly yn gynaliadwy ac yn garbon niwtral.
Wrth ailgylchu ac ailddefnyddio caiff yr ôl troed carbon ei leihau, a defnyddir cyflenwyr annibynnol a lleol ar gyfer deunyddiau priodas ecogyfeillgar. Y nod yw ailddefnyddio a thrwsio lle bynnag bo hynny’n bosibl yn hytrach na phrynu cynhyrchion newydd. Darperir cynhyrchion ecogyfeillgar a chynaliadwy ar gyfer gofalu am y croen i’r gwesteion ac ar gyfer glanhau’r tŷ. Y drefn yw cysylltu â’r gwesteion dros y ffôn neu drwy e-bost a’r bwriad yw cynnal swyddfa ddi-bapur. Darperir pethau ymolchi moethus ym Mhlas Dinam ac ail-lenwir y poteli bach o gyflenwad mwy. Mae’r holl drydan a ddefnyddir ym Mhlas Dinam yn adnewyddadwy.
Anogir y gwesteion priodas i ddefnyddio defnyddiau ecogyfeillgar a dewisiadau cynaliadwy wrth iddynt gynllunio ac addurno ar gyfer eu diwrnod mawr er mwyn lleihau gwastraff. Mae cadw popeth mor ecogyfeillgar ag sydd bosibl yn y lleoliad priodas hwn yn gwbl bwysig.
100
Nifer yr ymwelwyr, yn westeion priodas, logwyr y lleoliad a gwahoddiadau i ymweld
10
Nifer y staff llawn amser
Mae Plas Dinam ar agor i deithiau Gwahoddiad i Ymweld, priodasau a digwyddiadau ar bris gostyngol i aelodau Tai Hanesyddol.
Ein Hadolygiadau
Best weekend ever
Rebecca C. , married on 30/03/2024
We booked Plas Dinam with around 10 weeks to plan a wedding, something which could have been stressful (especially with a baby too), but Eldrydd and Lou made the process easy. Lou was always at the end of an email/Whatsapp to answer any queries and give advice, she was amazing and made us feel completely at ease from the very beginning.
Due to the time of year and number of guests, we held our wedding in the house and it was just perfect. We had an intimate ceremony in the gorgeous drawing room, drinks and canapés in the sitting room and feasting in the great hall. In the evening, the drawing room was transformed into a dance floor with a sound system set up by a great local company.
The house and lodge accommodated all of our guests over the Easter weekend. The house is beautiful, full of history and extremely well equipped. On Sunday, we made use of the onsite pizza oven which was fantastic and a great way to get everyone involved in the cooking! Tyson was great setting up and demonstrating how to use the pizza oven and the pizzas were delicious, this was a real highlight of the weekend.
It was important to us that our wedding was relaxed and enjoyable for everyone, Plas Dinam was the absolute perfect venue for this and we wish we could do it over and over again. A lot of our guests have said it was the best wedding they’ve ever been to!
The most magical weekend
Natasha S. , married on 01/07/2023
We had our wedding weekend here! I cant even begin to explain our experience. The house and grounds itself are absolutely stunning, it all went so perfectly. We had a pizza party on the Friday night using their pizza oven, Saturday the morning of the wedding was unreal, we went for a walk to the swimming lake and went for a swim, it was glorious. Such a chilled and magical experience. It’s your house for the weekend so everyone genuinely felt at home and when we needed help Louise was on the other end of the phone, she was brilliant throughout the whole process and guided us to the perfect weekend and wedding. We got most of our suppliers from a list they provided with trusted suppliers of everything and there was not one disappointment. Worth every penny, if only we could take everyone back there for our first anniversary 🤗 highly highly recommended!!
Truly Stunning
Lucy M. , married on 03/06/2023
This is a beautiful house that balances space and style with a homeliness. The grounds and countryside are stunning and enable walks, swimming and fun. The morning of our wedding friends were rolling out of bed and going for runs, or swimming in the wild lakes. Others were just clustered around the kitchen table. We married in the woodland which was perfect for us but there are lots of options.
Throughout the planning Louise and Eldrydd were helpful and responsive. Lots of advice on timing and set up. We used lots of wonderful local suppliers I would also recommend pastries from Andy’s bread (“these are better than in France” was one comment!!) to local chocolate! Our flowers were also done by a lady from the village (Jane)
Ymunwch â Thai Hanesyddol
Dewch i ddysgu am ein treftadaeth am ond £68 y flwyddyn.
Mae cannoedd o dai, cestyll a gerddi gogoneddus dros Gymru gyfan a gweddill y DU yn cynnig mynediad am ddim i’n haelodau.
Hefyd: cewch derbyn ein cylchgrawn chwarterol, mwynhau ein darlithoedd misol ar lein, cael gwahoddiad cyfyngedig i brynu tocynnau am deithiau tu-hwnt-i’r-llen a manteisio ar ddewis eang o gynigion arbennig am wyliau, llyfrau a nwyddau eraill fydd at eich dant.