Polisi Cymru

Mae cynifer o’n tai yn atyniadau twristaidd pwysig, yn fusnesau bychain ac yn gyflogwyr hanfodol bwysig i economi cefn gwlad Cymru sy’n aml yn fregus tu hwnt

Trysori gorffennol Cymru, adeiladu i’r dyfodol

Mae Tai Hanesyddol Cymru yn cynrychioli bron i 100 o dai a gerddi hanesyddol, sy’n cynnwys rhai o’r mannau mwyaf eiconig a hanesyddol ar draws Cymru. Yn 2024 croesawyd bron i 387,000 o ymwelwyr gan aelodau Tai Hanesyddol Cymru gan greu dwy filiwn o bunnoedd i economi Cymru drwy wariant ymwelwyr. Mae llawer o’r mannau hanesyddol hyn yn atyniadau hanfodol bwysig, yn fusnesau bychain ac yn gyflogwyr sy’n cyfrannu at economi leol sydd yn aml yn fregus mewn sawl ardal wledig yng Nghymru.

Mae busnesau tai hanesyddol Cymru yn parhau i geisio goresgyn y trafferthion a ddaeth yn sgil y cynnydd yng nghostau ynni a chostau byw. Mae cyflwyno rheoliadau newydd wedi creu sawl sialens newydd i’n tai hanesyddol, yn enwedig os mae twristiaeth yw’r unig ffynhonnell incwm. Heb gymorth rheoliadau a deddfwriaethau, mae gwarchodwyr ein hetifeddiaeth yn wynebu dyfodol llawn pryder.

Rydym am weithio’n agos â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau polisi amgylcheddol lle caiff ein hatyniadau treftadaeth a’r economi leol yr amodau cywir i ddatblygu seiliau cynaliadwy, yn conomaidd
ac yn amgylcheddol, fydd yn hybu twristiaid i deithio ar hyd a lled ein gwlad.

Pan fo etifeddiaeth yn hygyrch i bawb, gwyddom ei bod yn cynnal iechyd a lles ac yn allweddol i gynnydd yn yr economi leol. Mae’n anhepgor bod Llywodraethau Cymru a San Steffan yn cydnabod gwerth cymunedol ein tai a’n gerddi amhrisiadwy a’u bod yn gosod sicrwydd a pholisïau ar waith fel y gallant barhau â’u rhan hanfodol i genedlaethau’r dyfodol.

I’r perwyl hwn, mae gennym 5 argymhelliad i’n gwleidyddion:

1. Diogelu ein treftadaeth rhag canlyniadau anfwriadol

Mae ein treftadaeth unigryw yn dibynnu ar fframwaith o gefnogaeth ariannol a rheoleiddiol.

Gall newidiadau i reoliadau, megis ar letygarwch byrdymor gael effaith andwyol ar fusnesau tai hanesyddol a gwneud y gwahaniaeth rhwng atyniad llewyrchus a busnes sy’n mynd â’i ben iddo. Mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ystyried effaith y newidiadau i’r fframwaith reoli ar ein treftadaeth fregus ac i drafod hyn o ddifrif gyda’r sector.

2. Creu Cymru sy’n gystadleuol ac yn gyrchfan gynaliadwy i dwristiaid

Mae creu marchnad gynaliadwy a bywiog yn hanfodol i’n tai cofrestredig a’n cymunedau gwledig ar hyd a lled Cymru.

Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi flaenoriaethu twristiaeth dreftadaeth ond gall hyn ond ffynnu gydag isadeiledd priodol. Mae angen hybu lletygarwch byrdymor mewn mannau nad sy’n effeithio’n andwyol ar anghenion tai i bobl leol a sicrhau bod unrhyw dreth ar dwristiaeth yn cael ei fuddsoddi er lles economi twristiaeth leol.

3. Datgloi golud cudd yr economi wledig

Mae busnesau ein tai hanesyddol yn dwyn llu o fanteision i’r economi lleol, ond mae’r rhain, fel llawer o’n busnesau gwledig yn cael eu llesteirio gan gysylltedd gwantan.

Mae gofyn am ymrwymiad llwyrach gan Lywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth San Steffan i wella isadeiledd cefn gwlad er mwyn i’r economi gwledig ffynnu.

4. Cefnogi’r defnydd o ynni adnewyddadwy a chynaliadwy

Rhaid i berchnogion a gwarcheidwaid allu gweithredu mesurau ynni yn effeithiol a gofalus er mwyn gwarchod adeiladau traddodiadol ac unigryw Cymru.

Fel yr amlinellir yn y Strategaeth Wres i Gymru, mae angen system o gynllunio er mwyn cyrraedd sero net. Byddai rhagor o fuddsoddiad mewn egni adnewyddadwy i gymunedau gwledig nad sy’n rhan o’r rhwydwaith, yn lleihau ôl troed carbon a chostau tanwydd adnewyddadwy, ac yn cynyddu hunanddigonedd. Wrth integreiddio’r sector treftadaeth â phrojectau ynni gwyrdd gallwn greu dyfodol cynaliadwy i adeiladau hanesyddol a thraddodiadol Cymru.

5. Ysgogi buddsoddiad mewn projectau atgyweirio

Rhaid i Lywodraeth Cymru ddeisyfu Llywodraeth San Steffan i gyflwyno cynllun cymorth Treth ar Werth ar atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau rhestredig sydd ar agor i’r cyhoedd.

Yn dilyn Cyllideb yr Hydref gan y Canghellor, bydd cynllun o’r fath yn hanfodol i alluogi atyniadau treftadaeth i fuddsoddi mewn atgyweirio cynaliadwy a holl bwysig. Bydd hyn, yn ei ro, yn creu gwaith ac economi fywiog i gymunedau gwledig Cymru yn ogystal â chadw ein treftadaeth yn fyw am ganrifoedd i ddod.

Ymunwch â Thai Hanesyddol

Dewch i ddysgu am ein treftadaeth am ond £68 y flwyddyn.

Mae cannoedd o dai, cestyll a gerddi gogoneddus dros Gymru gyfan a gweddill y DU yn cynnig mynediad am ddim i’n haelodau.

Hefyd: cewch derbyn ein cylchgrawn chwarterol, mwynhau ein darlithoedd misol ar lein, cael gwahoddiad cyfyngedig i brynu tocynnau am deithiau tu-hwnt-i’r-llen a manteisio ar ddewis eang o gynigion arbennig am wyliau, llyfrau a nwyddau eraill fydd at eich dant.