Ymwadiad y Wefan

Rydym wedi datblygu’r wefan ddwyieithog hon i alluogi ein haelodau a’r cyhoedd yng Nghymru i gysylltu â Thai Hanesyddol ac i ddysgu sut yr adnewyddwyd adeiladau ein haelodau yng Nghymru.  Mae yma ddolenni i’n prif Wefan yn y DU www.historichouses.org sydd â gwybodaeth ddefnyddiol am holl adeiladau a gerddi ein haelodau ar draws y DU, y digwyddiadau fydd yno a sut i ymweld â hwy.

AMODAU DIBENION SAFONOL EIN GWEFAN

Croeso i Wefan Tai Hanesyddol Cymru.  Darllenwch yr oll o’r amodau dibenion safonol i ddefnyddio’n Gwefan yn ofalus.  Mae caniatâd i chi ddefnyddio cynnwys y Wefan hon ar yr amod eich bod yn cytuno ag ef, ac os defnyddiwch unrhyw ran ohono, rydym yn barnu eich bod yn llwyr gytuno â’r cynnwys hwnnw.

Mae’r amodau dibenion safonol hyn yn gymwys ar draws ein Gwefan gyfan; ac os bydd unrhyw amwysedd gydag amodau neu delerau, y termau safonol hyn fydd yn rhagori.

DIFFINIADAU

Yn yr Amodau Dibenion hyn, mae:

‘Nodau’ yn golygu nodau masnach neu wasanaeth, logos neu frand sy’n gywir ar hyn o bryd ac o dro i dro fydd yn cael eu defnyddio’n gywir neu eu mabwysiadu gennym ac sy’n perthyn i ni neu i drydydd person.  Dyfernir bod y term ‘nod masnach’ lle mae’r cyd-destun yn caniatáu yn cynnwys pob logo a nod gwasanaeth.

‘Cynnwys’ yn golygu, i’r graddau mai gwaith â hawlfraint a warchodir ydyw, ac nad yw wedi’i nodi’n benodol fel ‘Eiddo Trydydd Person’, yr oll neu rannau o unrhyw destun, delwedd, sain, fideo neu unrhyw fath arall o gyfrwng mewn unrhyw fformat sydd wedi’i gynnwys yn y Wefan.

Nid yw ‘Nodau’ yn rhan o’r ‘Cynnwys’

‘Eiddo Trydydd Person’ yn golygu’r oll neu rannau o unrhyw Nod, testun, delwedd, sain, fideo neu unrhyw fath arall o gyfrwng sydd wedi’i gynnwys yn y Wefan ac a nodir yn eiddo â hawlfraint i drydydd person.

‘Ni’ ac ‘ein’ yn golygu Tai Hanesyddol, neu i ddefnyddio’r enw llawn cyfreithiol, y Gymdeithas Tai Hanesyddol; mae Tai Hanesyddol Cymru yn gangen rhanbarth o Dai Hanesyddol.

‘Gwefan’ yn golygu ein Gwefannau ni www.historichouses.wales a www.taihanesyddol.cymru ac unrhyw is-barth arall.

NODAU

Ni ddylid derbyn bod unrhyw beth ar y Wefan yn golygu y caniateir defnyddio, na bod hawl defnyddio ein Nodau na’r rhai sydd mewn unrhyw eiddo trydydd person a welir ar ein Gwefan heb ganiatâd ysgrifenedig gennym ni neu gan y trydydd person ymlaen llaw.  Gwaherddir yn llwyr unrhyw gamddefnydd o’r Nodau sydd ar ein Gwefan.

HAWLFRAINT A CHANIATÂD

Mae hawlfraint y rhan fwyaf o’r delweddau ar y Wefan hon yn eiddo Tai Hanesyddol neu adeiladau ein haelodau.  Sylwch, fodd bynnag, bod hawlfraint ambell ddelwedd yn berchen i drydydd person, er nad yw hyn bob tro wedi’i ddatgan.

Os hoffech wybod rhagor am hawlfraint unrhyw ddelwedd benodol, anfonwch neges e-bost, ynghyd â dolenni’r ddelwedd dan sylw, at info@historichouses.org.

YMWADIAD

Rydym wedi ymdrechu’n deg a rhoi pob gofal wrth baratoi’r Cynnwys, fodd bynnag rydym yn ymwadu â phob gwarant a fynegir neu a awgrymir, am gywirdeb y testun, a gall y Cynnwys ddisgrifio gwaith datblygol a all newid yn ddirybudd.  Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golled na difrod sy’n deillio o’ch defnydd na’ch dibyniaeth chi ar y Cynnwys.

Gall ddolenni o fewn ein Gwefan arwain at wefannau eraill, yn hytrach nag at www.historichouses.org.  Maent wedi’u cynnwys er hwylustod yn unig.  Nid ydym naill ai’n noddi nac o anghenraid yn cymeradwyo unrhyw wybodaeth na datganiad sydd ar y gwefannau hynny (na gwefannau eraill y cyfeirir atynt neu sydd â dolenni o’r gwefannau hynny).

Gwnaethpwyd pob ymdrech bosibl i gael y caniatâd priodol gan y personau hynny y gellir eu hadnabod mewn ffotograffau drwy gydol y Wefan hon.

DIOGELU EICH DATA PERSONOL

Caiff eich data personol a drosglwyddir atom ei drin gan Dai Hanesyddol yn unol â’n Polisi Preifatrwydd ar gyfer yr holl DU.

Y DEFNYDD O ‘CWCIS’

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i’ch gwahaniaethu chi oddi wrth ddefnyddwyr eraill ein Gwefan.  Maent yn gymorth i ni ddarparu profiad boddhaol wrth i chi bori ein Gwefan yn ogystal â’n galluogi ni i wella’n Gwefan.  Am fanylion ar y cwcis a ddefnyddir gennym a’r rheswm dros eu defnyddio gwelwch ein Polisi Preifatrwydd ar gyfer yr holl DU.

COLLED ÔL-DDILYNOL

Ar wahân i’r hyn a ddisgwylir gan gyfraith Lloegr, sydd hefyd yn weithredol yma yng Nghymru, ni fyddwn dan unrhyw amgylchiad yn atebol i chi drwy gyfraith am unrhyw golled arbennig, achlysurol, ôl-ddilynol, cosbol na rhybuddiol, nac ychwaith am unrhyw gostau gwastraff sy’n deillio o’ch defnydd chi o’r Cynnwys, hyd yn oed os rhybuddiwyd ni o ddichonoldeb y fath ddifrod.

CYFRAITH BERTHNASOL

Rydych yn cytuno bod yr amodau a’r telerau o’ch defnydd chi o’n Gwefan wedi’u rheoli gan gyfraith Lloegr, sydd hefyd yn weithredol yma yng Nghymru, a’u dehongli yn unol â’r gyfraith honno a’ch bod chi’n cytuno bod gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth lawn mewn perthynas ag unrhyw anghydfod neu fater a all godi mewn cysylltiad â’r amodau a’r telerau hyn a’ch defnydd chi o’r Wefan.

CYSYLLTWCH Â’N TÎM

Os bydd gennych unrhyw gwestiwn, sylw neu gynnig ynglŷn â’n Gwefan, neu os hoffech wneud cais am gywiro, anfonwch neges e-bost atom yn info@historichouses.org.